Cyhoeddi cynlluniau ar gyfer pont newydd dros y Ddyfi
- Cyhoeddwyd
Bydd cynigion am bont newydd gwerth £24m dros Afon Ddyfi yn cael eu cyhoeddi mewn arddangosfa gyhoeddus ym Machynlleth ddydd Mercher.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y bont newydd yn "gwella capasiti ar yr A487 gan wella diogelwch ac amser teithio ar y ffordd, sy'n gysylltiad pwysig rhwng y gogledd a'r de".
Mae'r cynllun yn cynnwys pont newydd fyddai'n croesi'r Ddyfi yn uwch i fyny'r afon na'r bont bresennol ger Machynlleth.
Mae'r bont bresennol wedi ei beirniadu am fod yn gul ac am gau yn rheolaidd oherwydd llifogydd neu ddifrod gan gerbydau
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart: "Bydd y bont newydd hon yn gwella llawer ar ddiogelwch, amser teithio a pha mor gadarn yw'r rhwydwaith, tra'n sicrhau bod y bont wreiddiol restredig Gradd II yn aros yn ei lle.
"Rwy'n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosib yn mynd i'r arddangosfa ac yn adrodd yn ôl ar y cynlluniau arfaethedig."
Bydd yr arddangosfa yn agored i'r cyhoedd yn Y Plas, Machynlleth, rhwng 10:00 ac 20:00 ddydd Mercher.