Gwerthu hen safle Shell yn Rhosgoch am £3m
- Cyhoeddwyd

Mae safle Rhosgoch tua thair milltir o Amlwch a chwe milltir o Orsaf Niwclear Wylfa
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn wedi gwerthu hen safle storio Shell yn Rhosgoch am £3m.
Mae'r safle dros 200 o erwau ger Amlwch wedi ei brynu gan gwmni Conygar Investments a bydd yn cael ei hyrwyddo ar gyfer defnydd sy'n gysylltiedig â phrosiect Wylfa Newydd a'r sector ynni.
Cafodd yr ymddiriedolaeth ei sefydlu yn 1990 i reoli'r gronfa gyfalaf wedi i Shell ddod â gweithgareddau i ben yn nherfynell olew Amlwch a fferm danciau Rhosgoch.
Dywedodd cadeirydd yr ymddiriedolaeth, Victor Hughes: "Mae gwerthu safle Rhosgoch yn garreg filltir bwysig ac arwyddocaol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Elusennol.
"Ers ei sefydlu yn 1990 mae'r ymddiriedolaeth wedi rhoddi grantiau sylweddol i sefydliadau gwirfoddol ac eraill.
'£110,000'
"Mae disgwyl i'r gwerthiant ddod ag oddeutu £110,000 ychwanegol y flwyddyn i'r gronfa gyfalaf, a gall yr ymddiriedolaeth wedyn ddefnyddio'r arian hwnnw i gyfrannu tuag at achosion da ar hyd a lled yr ynys."
Dywedodd prif weithredwr Conygar Robert Ware: "Mae'r safle mewn lleoliad da a bydd yn cael ei ddefnyddio gan adeiladwyr sy'n gysylltiedig â'r cynllun gorsaf bŵer niwclear gerllaw.
"Yn ogystal mae'n ddelfrydol ar gyfer nifer o ddefnyddiau eraill, fel fferm solar a chynllun ynni nwy. Byddwn yn gweithio tuag at gyflwyno ceisiadau cynllunio o fewn y 12 mis nesaf."