Ateb y Galw: Twm Morys
- Cyhoeddwyd
Y llenor a'r cerddor Twm Morys sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Robin Llywelyn.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Rhedeg i ganol y rhedyn oedd yn uwch na fi mewn lle o'r enw Ogoronwy ym Meirionnydd.
Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?
Isabella Rosellini.
Pa ddigwyddiad gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Deffro yn goch fel cimwch drosta'i wedi cysgu drwy'r pnawn yn noethlymun mewn llannerch yn y rhedyn mewn cae yn Llydaw.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Y bore 'ma wrth ddarllen neges.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes. Rhai drwg iawn.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Yr ardal honno sydd rhwng Cemaes ym Môn a Phorthsgiwed ym Mynwy, a rhwng Llanymynech yng Ngwlad y Mwynder a Thyddewi yng Ngwlad yr Hud.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Fiw imi sôn am honno yn fan hyn, siŵr!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Gŵr wrth gerdd.
Beth yw dy hoff lyfr?
Heddiw: yn Gymraeg, 'Culhwch ac Olwen'; yn Saesneg, 'Little Big Man'. Gwahanol fory!
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Fy nghrys cotwm glas.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Laurel a Hardy yn 'Way Out West'.
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?
Jean Gabin. Ei drwyn o yn debyg i'm trwyn i.
Dy hoff albwm?
Heddiw: yn Gymraeg, 'Dwyn yr Hogyn Nôl' ei Jarmandod (Geraint Jarman); yn Saesneg, 'Blood on the Tracks' ei Fobrwydd (Bob Dylan). Fory yn wahanol!
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin: pa un ydi dy ffefryn?
Prif gwrs. Hoff o bwdin, cofiwch.
Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Dyl Mei.
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Dyl Mei.