Boddi Tryweryn: 'Pennod gywilyddus'

  • Cyhoeddwyd
Capel Celyn
Disgrifiad o’r llun,

Capel Celyn, y pentre gafodd ei foddi

Roedd boddi pentref Capel Celyn yn "bennod gywilyddus yn hanes Cymru," meddai Is-Weinidog Swyddfa Cymru mewn dadl yn Neuadd San Steffan yn Llundain.

Er iddo dderbyn mai "dyddiau tywyll" oedd rhai Tryweryn, fe ddywedodd Alun Cairns na fyddai perygl o'r fath beth yn digwydd eto.

Roedd y ddadl wedi ei threfnu er mwyn nodi 50 mlynedd ers agor cronfa Tryweryn ger Y Bala er mwyn cyflenwi dŵr i ddinas Lerpwl er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn yng Nghymru.

Yn ôl Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd, gallai "Tryweryn arall ddigwydd" os na fyddai pwerau'n cael eu trosglwyddo.

"Fe fydd rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Gyfun ym Mesur Cymru roi perchnogaeth lawn o'u cyfoeth naturiol i bobl Cymru neu gyfiawnhau pam nad ydyn nhw'n gwneud hynny," meddai.

Fersiwn ddrafft

Bydd fersiwn ddrafft o Mesur Cymru ar ddatganoli pwerau i'r Cynulliad yn cael ei chyflwyno ar lawr Tŷ'r Cyffredin yr wythnos nesaf.

"... fe fydd rhaid iddyn nhw {y llywodraeth} gyfiawnhau pam y gellir rhoi perchnogaeth lawn i bobl yr Alban ond nid i bobl Cymru," meddai Ms Roberts.

"Rhaid i'r llywodraeth newid y gyfraith er mwyn sicrhau y byddai ailadrodd yr hyn ddigwyddodd 50 mlynedd yn ôl yn anghyfreithlon heddiw."

Disgrifiad,

Owain Williams yn esbonio pam y penderfynodd weithredu yn erbyn boddi Cwm Celyn

Disgrifiad o’r llun,

Cronfa Tryweryn

Dywedodd Mr Cairns fod yna resymau technegol yn atal y llywodraeth rhag datganoli holl bwerau cyfoeth naturiol.

'Dyddiau mwyaf tywyll'

"Gadewch i mi ddweud fod yr holl sefyllfa yn bennod gywilyddus yn hanes Cymru ac ni ddylid anghofio hynny.

"Yn wir, mae pobl ar draws Cymru'n adnabod yn syth y geiriau 'Cofiwch Dryweryn' wedi eu paentio ar wal yn Llanrhystud ger Aberystwyth.

"Mae'r geiriau hynny yn ein hatgoffa ni o rai o'r dyddiau mwyaf tywyll ac anffodus yn hanes Cymru."

Mae yna rali wedi ei threfnu ar yr argae er cof am bentref Capel Celyn a boddi'r cwm ddydd Sadwrn.