Lily'n blodeuo yn Llundain
- Cyhoeddwyd
Does 'na ddim diwedd i dalentau Lily Beau. Mae'r ferch 16 oed o Gaerdydd yn adnabyddus i wylwyr selog y rhaglen Gwaith/Cartref ar S4C fel y cymeriad Leilah, dolen allanol.
Ond mae'r actores hefyd yn hoff iawn o ganu tu allan i ddosbarthiadau Ysgol Bro Taf ac yn ddiweddar fe symudodd lawr i Lundain i fyw gyda'i modryb er mwyn astudio yng Ngholeg Celfyddydau a Cherddoriaeth Dwyrain Llundain (ELAM).
A hithau'n gyfrifol am y gân sy'n drac yr wythnos i BBC Radio Cymru yr wythnos hon, bu Cymru Fyw yn ei holi:
Dylanwad y teulu
Mae Mam a Dad yn actorion ac ers i mi fod yn ferch fach, roedd cerddoriaeth a theledu yn llenwi ein tŷ.
Mae gan Mam lais anhygoel, er fydd hi byth yn cyfaddef hynny. 'Naeth Dad ddangos mathau gwahanol o gerddoriaeth i fi pan o'n i'n ifanc felly daeth Etta James a Tina Turner yn arwyr i fi. Mae diddordebau fy rhieni wir wedi cael effaith ar y math o gerddoriaeth dwi'n gwrando arno ac yn ei ganu.
Cerddoriaeth jazz yw'r math sy'n rhoi mwyaf o ddiddordeb i fi, ac felly dim ond miwsig Saesneg sy' wedi bod yn bresennol iawn i fy natblygiad cerddorol.
Dwi'n hoff iawn o gantorion megis Elin Fflur, wrth gwrs, ond 'sgen ti unrhyw awgrymiadau o gantorion jazz Cymraeg?
Dwi'n credu mae'n bwysig iawn i mi ysgrifennu cerddoriaeth Cymraeg gan fy mod i eisiau ehangu fy apêl.
Dwi'n benderfynol o barhau i ganu caneuon Cymraeg tra 'mod i'n Llundain. Mae 'na gerddoriaeth Cymraeg anhygoel ond mae ganddo enw gwael, yn fy marn i.
Digon o gyfleoedd
Mae 'na ddigonedd o gyfleoedd yng Nghaerdydd i berfformwyr hyd at bwynt. Dwi'n credu mae rhaid teithio i ffwrdd o Gaerdydd i greu cysylltiadau ac i gwrdd â chantorion eraill, achos bod 'na ddim grŵp mor fawr o bobl yn y diwydiant cerddoriaeth i gael 'na.
Mae rhywle fel Llundain yn cynnig mwy o gyfleoedd ar raddfa fawr - mae 'na gynulleidfa eang iawn i gymharu â Chaerdydd.
Cantores ydw i ond 'naeth ffrind mam ddweud wrtha i am y cyfle [i weithio ar Gwaith/Cartref] a nes i jest meddwl 'cer amdani'.
Dwi'n rili mwynhau actio a gobeithio, ha' nesaf, alla i ga'l cyfle i weithio yn y Gymraeg eto a mynd 'nôl gartre' am gyfnod.
Dwi'n really colli ffrindie fi, ond dwi'n dwlu ar fyw yn Llunden!