Pryder am doriadau i wasanaethau bysus

  • Cyhoeddwyd
Bws

Mae Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru yn pryderu y gallai arolwg gwariant Llywodraeth y DU arwain at leihau yn sylweddol nifer y gwasanaethau bws ar gael i'r cyhoedd.

Yn ôl yr ystadegau ddaeth i law rhaglen Eye on Wales, mae'r defnydd o deithiau bws wedi gostwng yn y DU ers 2008, gyda'r gostyngiad mwyaf yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £25m y flwyddyn er mwyn cefnogi gwasanaethau bws - hynny yw gostyngiad o 25% ers 2013.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn "fater i'r awdurdodau lleol" sut maen nhw'n defnyddio'r arian.

Poeni am doriadau

Daw hyn pan mae nifer o gynghorau Cymru wedi lleihau'r arian sydd ar gael i gadw rhai gwasanaethau sy' ddim yn gwneud elw.

Mae'r arian sy'n cael ei roi i gonsesiynau i deithwyr yn llai.

Dywedodd Kevin Jones, rheolwr gyfarwyddwr New Adventure Travel yng Nghaerdydd, fod ei gwmni'n derbyn cymhorthdal.

"Ond mae'r cymhorthdal yn gostwng bob blwyddyn ... mae'r cyfanswm wedi lleihau ers pum mlynedd."

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru dderbyn llai o gyllideb wedi arolwg y Canghellor.

Toriad 40%

Dywedodd Andrew Morgan, llefarydd trafnidiaeth y Gymdeithas Lywodraeth Leol: "Os ydyn ni'n torri yn unol â'r ffigyrau mae George Osborne wedi sôn amdanyn nhw, rydym yn wynebu toriadau rhwng 25% a 40% a bydd hynny'n andwyol.

"Os ydyn ni'n sôn am dorri nôl 40% ar wasanaethau sydd heb gael eu diogelu, rhai fel y gwasanaeth bws - yna rydym yn sôn am 3%, 4% neu 5% o wasanaethau bws yn dod i ben."

Ond dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru: "Er gwaetha toriadau i'r gyllideb gan Lywodraeth y DU, rydym wedi dal i fuddsoddi £25m yn y gwasanaeth bws dros y tair blynedd ddiwethaf.

"Mae'n fater i'r awdurdodau lleol wedyn sut maen nhw'n rhannu'r arian yma."

Bydd rhaglen Eye on Wales ar BBC Radio Wales am 12:30 ddydd Sul.