Swyddi cwmni dur mewn perygl

  • Cyhoeddwyd
caparoFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cwmni dur wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn rhannol, gan beryglu 120 o swyddi yng Nghymru.

Dywed y gweinyddwyr Price Waterhouse Coopers (PwC) eu bod wedi eu penodi i redeg rhan o grŵp Caparo.

Mae Caparo yn cyflogi 92 o weithwyr yn Wrecsam a 24 o weithwyr yn Nhredegar.

Dywedodd Matt Hammond o PwC: "Fe fyddwn yn asesu pob opsiwn i'r busnesau fel mater o frys."