Mesur Cymru: 'Cymru gryfach o fewn y DU'

  • Cyhoeddwyd
Mesur Cymru

Bydd Mesur newydd Cymru yn creu Cymru gryfach o fewn y Deyrnas Unedig - dyna mae Stephen Crabb yn ei ddweud wrth gyhoeddi Mesur drafft Cymru.

Mewn datganiad, mae Swyddfa Cymru'n dweud bod y mesur drafft yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Prydain yn gwireddu'r ymrwymiadau a gafodd eu hamlinellu yng nghyhoeddiad Gŵyl Ddewi i greu "setliad datganoli cryfach, cliriach a thecach i Gymru."

Mae'r mesurau'n cynnwys:

  • Model cadw pwerau, fel bod pobl Cymru'n gwybod yn union pa bwerau sydd gan y Cynulliad

  • Pwerau newydd pwysig i Gymru ar ynni, trafnidiaeth, llywodraeth leol ac etholiadau'r Cynulliad

  • Pwerau cryfach i'r Cynulliad ar ei faterion ei hun, gan gynnwys y gallu i newid ei enw

Mae Swyddfa Cymru'n dweud y bydd y mesur rhoi mwy o eglurder ynghylch beth sydd wedi ei ddatganoli, yn golygu llai o achosion gerbron y Goruchaf Lys a "mwy o amser i Lywodraeth Cymru ganolbwynio ar y materion sy'n bwysig."

Mae Llywodareth Cymru'n dadlau, serch hynny, fod y mesur mor gaethiwys, fel bod angen sêl bendith un o weinidogion y DU cyn y gall cyfran fawr o'i mesurau ddod yn ddeddf.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod mesur drafft "yn rhoi feto i Loegr ar ddeddfwriaeth Gymreig", a'i fod yn "hybu cenedlaetholdeb".

llinell llwyd

Gohebydd Seneddol BBC Cymru, James Williams yn manylu

Consensws sy'n tanlinellu'r holl broses yma, meddai Stephen Crabb y bore yma.

Mae Ysgrifennydd Cymru yn gobeithio y bydd yna gonsensws ar Fesur Cymru yn yr un modd yr oedd yna ar gyfer y cytundeb trawsbleidiol Dydd Gŵyl Dewi y mae wedi ei seilio arno.

"Fe fydd fy nghlustiau'n agored drwy gydol y broses ymgynghori sydd i ddod," meddai Mr Crabb wrth newyddiadurwyr y bore yma.

Ond o ystyried ymatebion y gwrthbleidiau, mae'n edrych yn debyg y bydd hi'n anodd i'r gweinidog Geidwadol gyrraedd cytundeb.

Mae'r Ceidwadwyr yn awyddus bod y mesur yma'n ateb y cwestiwn cyfansoddiadol "am genhedlaeth" - wedi'r cyfan, medde nhw, dyma'r pedwaredd mesur tebyg ers ddechrau datganoli.

Gyda etholiad y Cynulliad fis Mai nesaf, mae'r blaid yn awyddus i ganolbwyntio ar record llywodraeth Lafur Cymru o redeg y gwasanaethau cyhoeddus hynny sydd wedi eu datganoli - iechyd, addysg ac yn y blaen.

Cofiwch hefyd mai slogan Carwyn Jones yw ei fod e'n 'Sefyll Cornel Cymru' yn erbyn y Ceidwadwyr yn San Steffan - mae ambell i frwydr felly rhwng y ddwy lywodraeth yn cryfhau'r naratif yna.

Ond gan na fydd y Mesur Cymru newydd yn cael ei basio tan ar ôl etholiad y Cynulliad, mae'n debyg y bydd materion cyfansoddiadol yn parhau i hawlio sylw yn ystod yr ymgyrch sydd i ddod.

llinell llwyd

'Cam yn ôl'

Wrth ymateb i ddrafft Mesur Cymru, mae Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler AC, yn dweud: "Rwy'n falch bod y Bil drafft yn mynd i'r afael ag ymrwymiad Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth y DU - sy'n ymrwymiad pwysig - i roi pŵer i'r Cynulliad dros ei drefniadau mewnol a'i faterion etholiadol ei hun.

"Fodd bynnag, rwy'n siomedig â'r ffordd yr ymdriniwyd yn y Bil drafft â'r newid o fodel rhoi pwerau i fodel cadw pwerau.

"Yn anffodus, rwy'n credu y byddai'r drafft presennol yn gyfystyr â cham yn ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol ac na fyddai'n cyflawni setliad cyfansoddiadol a fydd yn parhau i Gymru, ac i'r DU yn ei chyfanrwydd.

Yn ôl Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, "Mae'r drafft Mesur Cymru yn ei ffurf bresennol yn sarhad i'n gwlad,"

"Yn y bôn, mae'r Mesur yn cadarnhau statws Cymru fel cenedl eilradd o fewn y Deyrnas Unedig."

Bydd y Pwyllgor Materion Cymreig yn craffu ar y mesur drafft cyn deddfu, a bydd yn cael ei gyflwyno i'r senedd yn y flwyddyn newydd.

Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i drafod manylion y model cadw pwerau gyda Llywodraeth Cymru wrth i'r craffu fynd rhagddo.

Stephen Crabb
Disgrifiad o’r llun,

Stephen Crabb: Bydd y mesur yn "cryfhau pwerau'r Cynulliad"

'Awydd cryf am lais cryfach'

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb: "Mae Cymru wedi gwrthod yn bendant y math o genedlaetholdeb oedd yn bygwth chwalu'r Deyrnas Unedig y llynedd.

"Ond fel Ysgrifennydd Gwladol, dwi'n cydnabod bod yna awydd cryf yng Nghymru am fwy o lais ar faterion Cymreig o fewn setliad datganoli cryfach.

"Mae'r setliad presennol yn ansefydlog ac yn anneglur, a'r unig bobl sy'n elwa o hynny yw cyfreithwyr. Mae'n bryd i ni gael setliad datganoli cryf sy'n gweithio i bobl Cymru

"Mae'r Mesur Drafft yn rhan o becyn cynhwysfawr fydd - ochr yn ochr a'n hymrwymiad i warchod cyllid Cymru - yn datganoli cyfrifoldebau mawr newydd fydd yn arwain at newid o fewn datganoli yng Nghymru.

"Bydd llawer o drafod am fanylion y mesur dros y misoedd a byddaf yn parhau i wrando'n ofalus. Ond os ydym o ddifri am gymryd y cyfle i symud y genedl ymlaen yna mae'n rhaid i ni gydweithio er mwyn cyflwyno Mesur Cymru cryfach sy'n gweithio i bobl Cymru."

David Cameron and Nick Clegg
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth David Cameron a Nick Clegg ymrwymo i fwy o ddatganoli yng nghyhoeddiad Gŵyl Ddewi