Pwy sy'n eich gwylio ar y we?

  • Cyhoeddwyd
cyfrifiadur

Y peryglon sy'n wynebu pobl ifanc wrth ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol sy'n mynd â sylw Nia Medi yn rhifyn cynta' cyfres newydd Atebion ar BBC Radio Cymru.

Bydd Nia yn clywed am brofiadau 'Ceri' am adeg peryglus iawn yn ei bywyd. Mae 'Ceri' (dyw hi ddim am ddatgelu ei henw iawn) bellach yn 22 oed. Bu'n dweud wrth BBC Cymru am yr hyn ddigwyddodd iddi hi wrth ddefnyddio'r we yn ei harddegau:

Cenhedlaeth yn arloesi

Ro'n i'n 13 pan ddechreuodd oes newydd gwefannau cymdeithasol - yr oes pan oedd pob un ohonom yn yr ysgol yn ysu i fynd adre i allu siarad ar MSN a Bebo. Do'n i'n methu aros i ymlacio o flaen y cyfrifiadur yn siarad am oriau gyda ffrindiau ro'n i newydd dreulio oriau 'da nhw yn yr ysgol!

Fi'n meddwl mai ein cenhedlaeth ni oedd y genhedlaeth gyntaf i wirioneddol brofi'r cynnwrf yma ynghyd â'r elfen anhysbys sydd ynghlwm 'da'r holl beth. Roedd gallu siarad ag unrhyw un ar fforymau sgwrsio a gwefannau cymdeithasol yn hawdd tu nôl i sgrîn yn rhoi hyder i ni, ac yn 'neud i ni deimlo ein bod yn gallu gofyn a thrafod unrhyw beth heb gael ein barnu.

Wrth edrych nôl nawr, dwi'n gweld y mwya'i gyd o gyfleoedd oedd gyda fi i ddefnyddio fforymau a gwefannau oedd ddim yn cael eu goruchwylio, y mwya' od ac anghyfforddus yr aeth pethau.

Bydden i'n 'neud yr un peth bob dydd, fel gweddill fy ffrindiau; dod adre, newid o ddillad ysgol, sgwrsio gyda'n rhieni ac yna mynd ar lein yn syth fel mod i'n siwr nad o'n i'n colli mas ar unrhyw gossip!

Disgrifiad o’r llun,

Ydych chi'n gwybod gyda phwy ydych chi'n siarad tra'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol?

'Mas o fy nyfnder'

Tra'n siarad â'n ffrindiau ar lein bydden i hefyd yn dod ar draws pobl oedd dipyn yn hŷn a mwy profiadol na fi. O'n i'n gwbod bod hyn mas o fy nyfnder i ond roedd y gymysgedd o naïfrwydd plentyn, cyffro a chwilfrydedd yn 'neud i fi ishe archwilio mwy.

Dyma'r pwynt nes i gwrdd a fe.

Dechreuon ni siarad ar fforwm ar lein a dyma fe'n gofyn i adio fi ar MSN - oedd yn boblogaidd iawn cyn dyfodiad Facebook a Twitter. Ro'n i'n gwbod bod hyn yn rwbeth eitha personol i 'neud ond eto, roedd chwilfrydedd yn chware'i ran. Fe wnaeth e'n sicrhau i ei fod yr un oedran a fi, yn deall fi - roedd e'n foi charming oedd yn 'neud i fi deimlo'n dda.

Erbyn hyn roedd webcams hefyd yn dod yn rwbeth poblogaidd, a bydden i'n siarad â'n ffrindiau a'n nheulu ar y camerâu yma yn y nos.

Pan na'th e ddarganfod bod gen i webcam, dechreuodd natur y sgyrsie newid. Yn sydyn iawn aeth ei agwedd e'n lot mwy bygythiol, gan ofyn i fi neud pethe o'n i ddim yn gyfforddus â nhw.

Pan nes i wrthod y tro cyntaf, ei ymateb oedd "'dwi'n gwbod popeth amdana ti, dy enw, dy oed, lle ti'n byw - dwi'n mynd i ffeindio ti, dwi'n mynd i ddod draw i dy gartre di".

Roedd y sioc o sylweddoli bod yr holl bethau ro'n i wedi rhannu gyda fe yn cael eu defnyddio yn fy erbyn yn frawychus iawn. O'n i wirioneddol yn meddwl allen i ymddiried yn y person yma o'n i'n siarad â fe, achos dyna sut wnaeth e i fi deimlo.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen gofal mawr wrth ddefnyddio'r gwefannau cymdeithasol

'Euogrwydd'

Ges i gymaint o ofn. Yn ferch 13 oed ro'n i'n poeni beth fydde'n rhieni'n ddweud tase nhw'n gwbod mod i wedi bod yn siarad gyda dieithryn, a rhannu pethe gyda fe. O'n i ddim ishe i neb w'bod ac oedd e'n gw'bod hynny hefyd.

Ro'dd e'n deall y pŵer oedd gyda fe drostai, dechreuodd e ofyn i fi neud pethe anweddus ar y webcam. Do'n i ddim yn gwbod beth i'w 'neud. O'n i ddim ishe fe ddod i'r tŷ, bydde'n rhieni i mor grac.

Gofynnes i pam oedd e ishe fi 'neud y pethe 'ma, a'i ymateb oedd ei fod am weld pa mor brydferth o'n i, mod i yn brydferth a'i fod angen fy ngweld i "i gyd".

Fe nes i'r hyn ofynnodd e, ac ar y pryd do'n i wirioneddol ddim yn meddwl bod gen i ddewis.

Ar ôl hynny o'n i'n teimlo'n waeth, ac yn fwy caeth i'r sefyllfa a dwi'n dal i stryglo gyda theimlad o euogrwydd; mai fi oedd ar fai, gallen i fod wedi dweud 'na' - ond ar y pryd oedd e'n teimlo fel bod rhaid i fi neud hyn achos y bygythiade. Doedd dim syniad gyda fi am y term online grooming ac mai dyma, mewn gwirionedd, beth oedd yn digwydd.

Yn y diwedd nes i ddweud wrth fy rhieni a dyma nhw'n rhoi stop ar y peth. Diolch i Dduw mod i wedi neud hynny achos ma' na gymaint o ferched mas 'na sydd wedi mynd drwy hyn a phethe wedi mynd ymhellach.

Nes i erioed gwrdd â fe diolch byth… pwy a ŵyr beth fydde wedi digwydd…

Yn sicr mae e wedi cael effaith hirdymor arna i. Dwi'n ei ffeindio hi'n anodd iawn i ymddiried mewn dynion, hyd y oed nawr a finne'n 22 oed. Mae'n cael effaith fawr ar eich hyder, ac yn g'neud i chi gwestiynu'ch hun.

Dyna'r pŵer sydd ganddyn nhw, 'neud i chi deimlo mai chi sydd ar fai. Ond nid fi oedd ar fai.

(Mae Cymru Fyw yn gwybod beth yw enw iawn 'Ceri')

Disgrifiad o’r llun,

Nia Medi sy'n ceisio cael 'Atebion' i gwestiynau sy'n poeni pobl ifanc