Pryder ail-enwi Plas Glynllifon yn parhau
- Cyhoeddwyd
Mae pryder yn parhau am newid enw adeilad hanesyddol Plas Glynllifon yng Ngwynedd.
Cwmni MBi Sales o Halifax yn Sir Efrog yw perchnogion y plas yn Llandwrog ger Caernarfon ond roedd yn cael ei farchnata fel Wynnborn mansion ar eu gwefan tan yn ddiweddar.
Fe wnaeth y cwmni dro pedol oherwydd ymateb chwyrn i newid enw'r eiddo rhestredig ond bellach mae'r enw Wynnborn wedi ail ymddangos ar eu deunydd marchnata ar y we a'r enw "Plas Glynllifon Project".
Yn eu deunydd marchnata fe ddywed MBi: Glide up the driveway of Grade-I listed Wynnborn mansion and drift back to a time of butlers and footmen, and of aristocratic landowners entertaining royalty beneath vaulted ceilings.
Ail-enwi
Mae'r wefan hefyd yn esbonio pan fod y cwmni yn ail-enwi adeiladau, gan ddweud: For the separation of sales and operational marketing, MBi assign and market each development with its own unique project name.
This eliminates confusion which may be caused through historic information or the marketing used in the unit sales process. By doing this we ensure the operational business's marketing success.
Ddydd Mercher fe gafodd y Cynghorydd Siân Gwenllïan o Gyngor Gwynedd, ymgeisydd dros Blaid Cymru yn etholiad y Cynulliad, gyfarfod gydag un o gynrychiolwyr cwmni MBi. Mae hi'n dweud na chafodd ei hofnau eu tawelu yn dilyn y cyfarfod.
Dywedodd wrth BBC Cymru Fyw: "Mae'r cwmni wedi dweud y bydd yn defnyddio'r enw Wynnborn yn y deunydd marchnata, ac unwaith y bydd wedi agor, Plas Glynllifon fydd yr enw. Ond y drafferth yn lleol ydi na fydd pobl yn credu y bydd hyn yn mynd i ddigwydd.
'Yn yr un lle'
"Rydan ni yn yr un lle ag yr oeddan ni wythnos diwethaf (cyn i enw Wynnborn ddiflannu o'r wefan am gyfnod). Tydi'r cyfarfod heb dawelu fy ofnau o gwbl. Cyfarfod hefo'r person sydd ar yr ochr weithredol o ran datblygu'r gwesty i'r dyfodol wnes i. Pan fydd y gwesty yn weithredol, yna Plas Glynllifon fydd yr enw, meddai fo.
"Ond mae'n bosib y bydd yna flwyddyn a mwy cyn i'r gwesty agor ac felly fe fydd yr enw Wynnborn yn sefydlu ei hun yn ystod y cyfnod yma," ychwanegodd.
"Rydw i wedi gofyn iddo fo fynd yn ôl at y cwmni a dweud y bydd yn debygol y bydd 'na wrthwynebiad i hyn."
Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r cwmni am ymateb.