£10m i sefydlu canolfan ynni adnewyddadwy ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae parc gwyddoniaeth ar Ynys Môn wedi cael £10m i sefydlu canolfan fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu ynni adnewyddadwy.
Fe gafodd Parc Gwyddoniaeth Menai yr arian gan yr Undeb Ewropeaidd fel rhan o gynllun fydd yn annog cydweithio gydag ymchwilwyr.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y bydd yn "creu swyddi, gan helpu i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i Ynys Môn".
Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yng Ngaerwen y flwyddyn nesaf, gyda disgwyl i fusnesau symud i mewn o 2018.
Y gobaith yw y bydd y cynllun, sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Bangor, yn annog busnesau ac ymchwilwyr gwyddonol i symud i'r ardal i weithio.