Lluniau: Pier Bae Colwyn // Colwyn Bay pier in pictures

  • Cyhoeddwyd

Ar 22 Hydref gwrthododd Llywodraeth Cymru y cais i ddymchwel pier eiconig Bae Colwyn. Am ddegawdau ar ôl ei agor yn 1900 roedd yn atyniad poblogaidd gydag ymwelwyr o bell ac agos. Ond erbyn heddiw mae 'na ddadlau ffyrnig am ei ddyfodol. Dyma i chi gip trwy luniau ar hanes yr adeilad:

On 22 October, an application to demolish Colwyn Bay pier in north Wales was refused by the Welsh Government. There's been much wrangling about the future of the iconic building which has fallen into disrepair. Here's a look in pictures at the pier over the decades:

Disgrifiad o’r llun,

Traeth Bae Colwyn ddiwedd y 19eg ganrif, cyn i'r pier gael ei adeiladu // This is Colwyn Bay beach towards the end of the 19th century before the pier became a familiar landmark

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Agorodd y pier 360 llath a'r pafiliwn ar 2 Mehefin 1900 // The pier opened on 2 June 1900 with a concert by the world famous singer Adelina Patti

Disgrifiad o’r llun,

Arweinydd y gerddorfa ar y noson agoriadol oedd Jules Rivière, y cerddor amryddawn a phoblogaidd o Baris // On the opening night of the pavilion, the orchestra was led by the multi talented French musician Jules Rivière

Ffynhonnell y llun, Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn
Disgrifiad o’r llun,

Tua 1900-03, cyn i estyniad gael ei roi i'r pier er mwyn gallu cynnal perfformiadau awyr agored // This picture was taken in the early 1900s before the pier was extended to allow open air performances

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y pafiliwn ei ddinistrio mewn tân yn 1922 // The pavilion was destroyed by fire in 1922 but the pier survived the blaze

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn 1933 daeth anffawd arall wrth i ddau dân ddinistrio'r pafiliwn a'r theatr // Another blaze in 1933 destroyed the pavilion and theatre buildings

Ffynhonnell y llun, David Roberts Photography
Disgrifiad o’r llun,

Yn y 1970au cafodd y pafiliwn ei ail-agor fel y Dixieland Showbar // The pavilion was rebranded as the Dixieland Showbar, hosting gigs with stars such as Elvis Costello, Slade and Madness

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn 1986 roedd amcangyfrif bod angen gwerth tua £250,000 o waith adfer // The pier was sold in 1986 after it was estimated that £250,000 worth of repairs was necessary

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na ddadlau ffyrnig wedi bod yn lleol ynglŷn â dyfodol y pier // There's been a vigorous debate locally about the future of the pier with ownership changing hands several times

Disgrifiad o’r llun,

Dyma gynlluniau posib gafodd eu cynnig gan y grŵp Shore Thing yn 2011 er mwyn ei adfer // Shore Thing consortium presented their plans to revive the pier in 2011, but it was impossible to move forward because of a dispute about the pier's ownership

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae blaen y pier yn edrych yn llawer llai mawreddog nag oedd o pan agorodd yn 1900 // The front of the pier is not as majestic as it was in the 1900s and has since become a mecca for graffiti artists rather than tourists

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adeilad eiconig yn parhau i fod ar dirlun y prom ym Mae Colwyn... ond am ba hyd? // The iconic building still dominates the landscape... but for how long?

(Cafodd yr oriel hon ei chyhoeddi gyntaf ar Cymru Fyw yn mis Mehefin 2015 // This gallery was originally published by Cymru Fyw in June 2015)