Eisteddfod yn 'sbardun' i'r iaith yn Wrecsam a'r cylch

Mae Stephen Jones a Craig Colville wedi ailgydio yn eu Cymraeg ar ôl cyfnodau heb siarad yr iaith
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi'i disgrifio fel "sbardun ar gyfer dysgu yr iaith", a hynny ar ddiwrnod seremoni Dysgwr y Flwyddyn.
Yn ardal Wrecsam tua 12% sy'n gallu siarad Cymraeg, ond dywedir fod y brifwyl wedi creu egni o'r newydd i ddysgu'r iaith ymhlith pobl yr ardal.
Mae Stephen Jones, Swyddog Strategaeth y Gymraeg Cyngor Wrecsam, yn teimlo fod lle i "dynnu'r Gymraeg allan mewn cymunedau". Mae'n dweud fod siaradwyr Cymraeg "allan yna" ond bod angen sicrhau eu bod yn eu cyrraedd nhw.
"'Da ni eisiau creu mwy o brofiadau positif a dwi'n meddwl fod yr Eisteddfod yn wythnos o brofiadau positif i bobl sydd yn siarad dim gair o Gymraeg - mae o yma i chi."
'Awydd gwirioneddol i ymwneud â'r Gymraeg'
Ar ôl gorffen ysgol doedd Stephen "ddim yn teimlo cweit yn rhan o'r diwylliant Cymraeg, o'r teulu".
Ond erbyn hyn mae Stephen, sy'n dod o deulu di-Gymraeg o Lerpwl, yn defnyddio'r iaith bob dydd.
"So o ni heb ddefnyddio'r Gymraeg am dros 20 mlynedd a wedyn daeth y cyfle yma, swydd gyda'r cyngor a nath cwpl o gydweithiwyr dd'eud 'ti'n gwbod be' Steve, mae Cymraeg ti'n ddigon da'.
"Felly efo bach o gymorth i lenwi'r cais a ges i'r swydd. Fast forward chwe blynedd a dwi wedi bod yn defnyddio a hybu'r iaith bob dydd."
- Cyhoeddwyd17 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Collodd Craig Colville ei Gymraeg ar ôl yr ysgol oherwydd "diffyg siawns" i ddefnyddio'r iaith yn gyhoeddus, ond ailgydiodd ynddi yn hwyrach yn ei fywyd wrth weithio yn Sir Ddinbych.
Ei gyngor yw "defnyddiwch eich Cymraeg gymaint allwch chi".
"Mae cerddoriaeth Cymraeg yn wych, darllen a just ffeindio digwyddiadau sydd yna yn y Gymraeg.
"Gwyliwch y pêl-droed gyda'r sylwebaeth Cymraeg – mae hwnna'n brilliant!"
Cafodd ei fagu mewn teulu di-Gymraeg ond aeth i gylch meithrin ac ysgol cyfrwng Cymraeg.
"D'eud y gwir nes i golli Cymraeg fi oherwydd diffyg siawns i ddefnyddio'r Gymraeg yn gyhoeddus.
"A wedyn ailgydio yn y Gymraeg yn hwyrach yn bywyd fi wrth weithio yn Sir Ddinbych. Beth oeddwn i'n 'neud fanna oedd gofyn i bobl siarad Cymraeg efo fi.
"Roedden nhw yn trio newid i Saesneg i helpu, ond o'n i'n dal i siarad Cymraeg. Roedd o'n battle of wills a fi nath ennill rhan fwya' o'r amser!"

Mae 'na "egni gwirioneddol" gan bobl ifanc yr ardal, meddai Elen Mai Nefydd
Mae Elen Mai Nefydd Is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Wrecsam, a phennaeth darpariaeth y Gymraeg ym Mhrifysgol Wrecsam.
"Mae awydd gwirioneddol i ymwneud â'r Gymraeg yn Wrecsam a'r fro er fod y ganran o ran siaradwyr yn gymharol isel", meddai.
"Dwi meddwl fod yna egni gwirioneddol yn dod o'r to ifanc yn yr ardal.
"Mae yr ysgolion lleol wedi bod yn ganolog i'n gwaith a'r colegau. Dwi yn teimlo fod y dyfodol yn ddisglair o ran y Gymraeg yma."
Mae'n derbyn y bydd cynnal yr egni yna yn sialens ar ôl i'r Eisteddfod adael, ond mae "criw yr Eisteddfod eisoes yn trafod sut allwn ni gario y gwaith yma ymlaen".