Rhaid i Lafur 'godi uwchlaw' anghytuno mewnol - Eluned Morgan

Eluned MorganFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eluned Morgan yn siarad i nodi blwyddyn fel Prif Weinidog Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'n rhaid i Lafur ganolbwyntio ar flaenoriaethau'r etholwyr nid "nonsens gwleidyddol mewnol", yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Mewn cyfweliad i nodi blwyddyn yn y swydd, dywedodd Eluned Morgan nad oedd rhwyg dros bolisïau o fewn ei phlaid yn dilyn ffrae ynglŷn a dewis ymgeisydd.

Yn ymateb i honiad bod carfanau yn y blaid wedi briffio yn erbyn ei gilydd, dywedodd ei bod hi'n "casáu'r math yna o wleidydda".

"Mae cynhenna ynglŷn ag unigolion... dwi'n meddwl dyle ni godi uwchlaw hynny a dwi ddim yn meddwl bod 'na rwyg gwleidyddol i gael tu fewn i'r Blaid Lafur," meddai mewn cyfweliad gyda Vaughan Roderick ar bodlediad Gwleidydda.

Dywedodd hefyd ei bod hi'n teimlo'r pwysau wrth i etholiadau nesaf y Senedd agosáu.

Mae rhai arolygon barn wedi awgrymu bod Llafur mewn perygl o golli eu safle fel plaid fwyaf y Senedd am y tro cyntaf ers dechrau datganoli.

Dywedodd Ms Morgan nad oedd gwrthdaro rhwng aelodau unigol o'r blaid "yn bwysig i bobl Cymru, a dwi'n meddwl bod hwnna'n rhywbeth mewnol".

"Dwi'n meddwl bod e'n bwysig bod ni'n canolbwyntio ar beth sy'n bwysig i bobl Cymru i ddweud," meddai.

"Mae'r nonsens gwleidyddol mewnol, os nag yw e'n rhan o rywbeth ideolegol – a dwi'n meddwl dyna wedyn bo chi gallu gael brwydr ideolegol – ond nid dyna ry'n ni'n sôn am fan hyn. Ni'n sôn am unigolion.

"A dwi'n meddwl bod pobl Cymru eisiau i ni ganolbwyntio ar bethau'n sy'n bwysig i nhw."

Owain Williams ar Faes yr Eisteddfod ddydd Llun
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Owain Williams, yn y llun mewn digwyddiad yn yr Eisteddfod ddydd Llun, wedi gwneud cais i sefyll yn etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf

Daw ei sylwadau ar ôl i swyddogion y blaid benderfynu peidio dewis Owain Williams fel ymgeisydd ar gyfer etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf.

Ers y penderfyniad, mae'r prif weinidog wedi dweud ei bod hin "ffan mawr" o Mr Williams ac yn gobeithio y bydd e'n gwneud cais ar gyfer sedd arall.

Mr Williams wnaeth ysgrifennu maniffesto Jeremy Miles pan safodd yn erbyn Vaughan Gething i arwain Llafur Cymru y llynedd.

'Tynnu gwallt allan am Betsi'

Cafodd Ms Morgan ei phenodi'n arweinydd - ac yn brif weinidog benywaidd cyntaf Cymru - yn ddiwrthwynebiad gan aelodau Llafur o'r Senedd wedi arweinyddiaeth byr a thymhestlog Mr Gething.

Roedd 'na raniadau amlwg ac anghytuno chwerw o fewn y blaid cyn i Mr Gething ymddiswyddo.

Cyfaddefodd Morgan iddi deimlo'n "betrusgar" pan gymerodd yr awenau ond bod "pethau wedi tawelu lot" ers hynny.

"Ond o'n i yn hyderus bydden i gallu fficso hwnna yn weddol gyflym a dyna ddigwyddodd," meddai.

Fel arweinydd mae wedi dweud ei bod hi'n canolbwyntio ar nifer fychan o flaenoriaethau, yn enwedig lleihau amseroedd aros yn y gwasanaeth iechyd.

Honnodd bod rhestrau aros yn dechrau gwella dan ei harweinyddiaeth, er i'r ganran o gleifion sy'n aros dros ddwy flynedd am lawdriniaeth godi yn y ffigyrau diwethaf.

Roedd hynny oherwydd problem benodol o fewn bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd, meddai.

Ar bodlediad BBC Cymru Walescast cytunodd ei bod hi'n "tynnu fy ngwallt allan" ynglŷn â'r sefyllfa yno, ond bod y llywodraeth yn cadw llygaid barcud ar y bwrdd.

Dywedodd hefyd gyda phob buddugoliaeth etholiadol mae'n mynd yn fwy anodd ennill yr etholiad nesaf.

Roedd 'na gyfrifoldeb "hanesyddol" arni, meddai, "ac mae 'na gyfrifoldeb fel yr arweinydd benywaidd cyntaf hefyd".

"Felly ie, wrth gwrs, dwi'n teimlo'r pwysau."

Beth yw barn y pleidiau eraill?

Does "dim wedi newid" ers i Ms Morgan fod yn brif weinidog, meddai Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr.

"Mae'r prif weinidog presennol wedi profi nad oes ganddi'r atebion i ddadwneud y niwed mae ei phlaid wedi ei wneud dros y 26 blynedd diwethaf," meddai.

Yn ôl AS Plaid Cymru, Heledd Fychan, mae record Eluned Morgan yn "fethiant".

Dywedodd: "Nid yn unig mae hi wedi methu â darparu gwell gwasanaethau cyhoeddus, ond mae hi wedi methu â sefyll fyny i Starmer bob tro: ar HS2, toriadau budd-daliadau anabledd, taliadau tanwydd y gaeaf, Ystâd y Goron – gallwn fynd ymlaen."

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, bod e'n "wych gweld dynes yn arwain Cymru am y tro cyntaf".

"Ond y peth dwi 'di bod yn meddwl am lot yw bod hi ddim yn sefyll i fyny i Keir Starmer," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK: "Ry'n ni 'di gweld targedau yn cael eu methu, llywodraeth sydd heb weledigaeth o gwbl ac arian y trethdalwyr yn cael ei arllwys mewn i brosiectau sy'n gwneud dim i wella bywydau pobl gyffredin Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.