Hwyrnos i dargedu 'pobl sy'n mynd i Greenman, Glastonbury, Primavera'

Maes BFfynhonnell y llun, Maes B
Disgrifiad o’r llun,

Bwncath, Gwilym, Fleur de Lys ac Adwaith fydd yn cloi'r perfformiadau ar brif lwyfan y maes ieuenctid eleni

  • Cyhoeddwyd

Bydd newidiadau i'r trefniadau adloniant ym Maes B eleni, gyda maes gwersylla i bobl dros 20 oed am y tro cyntaf.

Pwrpas ardal gwersylla Hwyrnos, yn ôl y trefnwyr, yw cynnig lle i bobl sy'n teimlo nad yw awyrgylch maes pebyll Maes B yn eu siwtio, ond eu bod am wersylla yn hytrach nag aros yn y maes carafanau.

Bydd llwyfan Hwyrnos hefyd yn cael ei gyflwyno yn arena Maes B yn cynnig amrywiaeth o gerddoriaeth ac artistiaid.

Targedu pobl sy'n mynd i "Greenman, Glastonbury, Primavera - pobl sy'n barod i gampio ac yn awyddus i gael y profiad 'na o ŵyl" yw pwrpas y maes gwersylla newydd, meddai Tomos Lynch, sy'n gweithio ar arlwy Maes B.

Tomos LynchFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Tomos Lynch sydd wedi bod wrthi yn trefnu gwersyll Hwyrnos ac arlwy Maes B eleni

Mae'r maes gwersylla yn rhan o safle'r Eisteddfod, rhwng Maes yr Eisteddfod ac Arena Maes B.

"Rhyw fan canol, achos yn amlwg mae'r Eisteddfod fel gŵyl mor unigryw, lle mae'n gorfod darparu i ystod eang o bobl, o blant i bobl sydd yn eu harddegau, i fy rhieni a thu hwnt," meddai Tomos Lynch.

"Dwi'n meddwl pan ti yn dy ugeiniau, dy dridegau, ti wedi arfer mynd i'r Dyn Gwyrdd, ro'n i yn Sesiwn Fawr eleni, ac mae'n bwysig bod ti'n teimlo fel dy fod yn perthyn i'r lle, achos nid pawb sydd am aros mewn carafan gyda'u rhieni."

Mae'r adborth wedi bod yn bwysig, yn ôl Tomos, ac fe wnaeth ef a gweddill criw Maes B gynnal sesiynau ar draws Cymru i gasglu barn pobl.

"Naethon ni gynnal gweithdai yng Nghaerdydd, Aberystwyth, yn y gogledd, efo cymysgedd o fyfyrwyr, disgyblion, pobl ifanc yn eu hugeiniaiu a'u treidegau, so dwi'n gobeithio na ffrwyth llafur hynny i gyd ydy hyn."

Bwncath, Gwilym, Fleur de Lys ac Adwaith fydd yn cloi'r perfformiadau ar brif lwyfan y maes ieuenctid eleniFfynhonnell y llun, Maes B

Yn ogystal â maes gwersylla Hwyrnos fe fydd 'na lwyfan hefyd.

"Ti'n sbio ar rhywle fel Glastonbury, ac maen nhw gyd efo eu hunaniaeth a'u henwau eu hunain ac yn cynnig genre neu rhyw vibe penodol, ac eisiau gwneud rhywbeth tebyg yn Maes B oedd y syniad," ychwanegodd.

"Felly mae'r ddau lwyfan yn ynghyd a llond llaw o bebyll DJs hefyd, gyd yn yr arena Maes B."

"Rwyt ti'n prynu dy docyn i aros yn y gwersyll i ddechrau, ar wefan yr Eisteddfod.

"Mae 'na opsiwn wedyn i ychwanegu tocyn i'r maes, boed hynny am yr wythnos neu'r penwythnos ola.

"Mae 'na opsiwn wedyn i ychwanegu tocynnau gigs Maes B i dy becyn di hefyd. Felly mae fyny i ti sut wyt ti am adeiladu dy wythnos."