Lluniau: Dydd Llun yn yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Mae dydd Llun yr Eisteddfod yn ddiwrnod pwysig i nifer o bobl – diwrnod urddo aelodau newydd i'r Orsedd.
Oherwydd y glaw fe gafodd y seremoni ei chynnal yn Y Pafiliwn, ond erbyn amser cinio roedd yr haul yn ôl yn tywynnu.

Cyn y prysurdeb, mae'r gwisgoedd yn barod...

Mae tîm o bobl gefn llwyfan yn helpu i wisgo'r aelodau cyn seremoni'r Orsedd - a phawb mewn hwyliau

Un o'r rhai gafodd eu hurddo oedd Keris Jones, o Rosllannerchrugog, sydd wedi bod yn gwirfoddoli i'r Eisteddfod ers 50 mlynedd

Ac yn nghanol y prysurdeb, mae un aelod pwysig o'r Orsedd yn nôl ei gwisg...

Neges o heddwch oedd gan yr Archdderwydd Mererid Hopwood

Tony Thomas, o Lanybydder, gafodd y gymeradwyaeth fwyaf gan y dorf - mae o wedi bod yn gweithio gyda'r Eisteddfod ers 1984 ac erbyn hyn yn Swyddog Technegol

Y Corn Gwlad yn atsain yn y Pafiliwn

Erbyn amser cinio roedd yr hetiau bwced allan i warchod rhag yr haul gan griw clwb golff Llandudno

Roedd Euan Hammond, o Brighton, a Joe Spence, o Lerpwl, yn chwarae gyda Seren yng Nghaffi Maes B ar ôl dechrau'r band gydag Elen, o Landudno, yn y brifysgol yn Lerpwl

Dawnswyr Talog yn stepio yn y Tŷ Gwerin

Eisteddfod cyntaf i Mabli, o Gaerdydd, sydd yma gyda'i mam Flora

Yr hogyn lleol - a'r pianydd byd-enwog Llŷr Williams - yn perfformio gweithiau cyfoes Cymreig yn Y Stiwdio

Miwsig o fath gwahanol oedd gan Mr Phormula - y rapiwr a'r bît-bosciwr Ed Holden

Mae'n flinedig mynd o gwmpas y Maes, ond mae Beca o Benrhyndeudraeth wedi dod o hyd i'r lle perffaith i ymlacio

Iro'r llwnc ar ôl cystadlu gyda Chôr Cynhaearn

(chwith i'r dde) Nesta Gele - ei enw barddol ers heddiw, Sarah Jones, Lois Jones ac Ubu y ci
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Owain Rhys o Gaerdydd, oedd enillydd Y Goron
Pynciau cysylltiedig
Mwy o orielau lluniau o'r Eisteddfod
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl