Plas Glynllifon: Cwmni'n tynnu'n ôl o'r fenter

  • Cyhoeddwyd
GlynllifonFfynhonnell y llun, Iwan Williams

Mae'r cwmni oedd i gymryd rheolaeth o adeilad hanesyddol Plas Glynllifon ger Caernarfon wedi tynnu'n ôl o'r fenter yn dilyn "ymateb negyddol" i'w gynlluniau.

Roedd pryder bod y cwmni - MBi Sales o Halifax yn Sir Efrog - am newid enw'r adeilad i Wynnborn Mansion.

Roedd yn cael ei farchnata fel Wynnborn Mansion ar eu gwefan, ond fe wnaeth y cwmni dro pedol oherwydd ymateb chwyrn i newid enw'r eiddo rhestredig.

Ond yn gynharach yr wythnos yma, fe wnaeth yr enw Wynnborn ail-ymddangos ar eu deunydd marchnata ar y we, a'r enw "Plas Glynllifon Project".

Mewn datganiad i raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru, dywedodd y cwmni bod yr "ymateb negyddol" wedi "arwain i ni ddod a'n cysylltiad â'r datblygiad i ben".

Yn eu deunydd marchnata fe ddywed MBi: "Glide up the driveway of Grade-I listed Wynnborn Mansion and drift back to a time of butlers and footmen, and of aristocratic landowners entertaining royalty beneath vaulted ceilings."

Ond roedd y cwmni yn mynnu mai dim ond ar gyfer marchnata fyddai'r enw Wynnborn yn cael ei ddefnyddio.

'Ymateb negyddol'

Ddydd Mercher fe gafodd y Cynghorydd Siân Gwenllïan o Gyngor Gwynedd gyfarfod gydag un o gynrychiolwyr cwmni MBi.

Dywedodd na chafodd ei hofnau eu tawelu yn dilyn y cyfarfod.

Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd MBi: "Roedd hwn yn amlwg yn mynd i fod yn gynllun heriol, ond fe wnaethon ni ymrwymo i wneud y buddsoddiad i ddod a'r adeilad yn ôl i'w orau a chreu cyfleoedd newydd i'r gymuned leol.

"Roedd y cynllun yn peri nifer o heriau technegol anferthol, ond roedden ni'n fodlon mynd i'r afael â nhw. Ond mae'r ymateb negyddol ry'n ni wedi ei brofi wedi arwain i ni ddod a'n cysylltiad â'r datblygiad i ben.

"Doedd o erioed wedi bod yn fwriad gennym ni i newid enw Plas Glynllifon. Mae hanes hir a lliwgar yr adeilad yn rhan o'r hyn wnaeth ein denu ato, ac roedden ni'n bwriadu ei ailagor gyda'r un enw."

'Cydbwysedd i'w daro'

Dywedodd Hywel Williams, AS Plaid Cymru dros Arfon ei fod yn croesawu'r datblygiad mewn un modd, ac nad yw'n credu bod y cyfle i weld buddsoddiad yn yr adeilad wedi mynd.

"Wrth gwrs, byddai'n well o lawer gen i petaen nhw wedi aros i mewn a newid eu datblygiad arfaethedig i rhywbeth sy'n llawer mwy cydnaws yn lleol," meddai.

"Ond mae 'na gydbwysedd i'w daro rhwng datblygu a 'gwerthu allan' i'r graddau eich bod chi ddim yn adnabod eich ardal eich hun.

"'Dwi yn meddwl bod na dal gyfle yna i Glynllifon, i rhywun efallai sydd hefo syniadau amgenach. Pwy a ŵyr, efallai bod yna bobl leol allai gymryd yr awennau yna."