Canolfan Pontio ar fin agor ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan gelfyddydau ac arloesi Pontio wrthi yn cael ei gorffen, medd Prifysgol Bangor.
Fe ddechreuodd y gwaith adeiladu ar y cynllun £50m yn 2012 - ac mae'r ganolfan eisoes flwyddyn yn hwyr yn agor.
Mae'r ganolfan newydd yn gartref i theatr, sinema ddigidol, undeb myfyrwyr, bar a bwyty.
Bydd rhaglen lawn o ddigwyddiadau celfyddydol yn dechrau ym mis Rhagfyr.
'Pleser enfawr'
Dywedodd yr Athro Jerry Hunter, dirprwy is-ganghellor Prifysgol Bangor, ei fod yn "bleser enfawr" i fanylu ar y "cyfleusterau ardderchog" fydd ar gael i'r cyhoedd.
"Mae hi wedi bod yn daith anodd, ond nawr ry'n ni wedi creu canolfan arloesol am wyddoniaeth a'r celfyddydau ym Mangor," meddai.
Mae'r ganolfan ar hen safle adeilad Theatr Gwynedd, gafodd ei ddymchwel i wneud lle ar gyfer y cynllun newydd.
Mae'r cynllun wedi gweld oedi mawr, y bwriad yn wreiddiol oedd agor ym mis Medi 2014.