Cannoedd o Gymry yn canu yn Times Square
- Cyhoeddwyd
Cannoedd o Gymry yn Times Square
Roedd 'na awyrgylch cwbl Gymreig ynghanol Times Square yn Efrog Newydd dros nos gyda channoedd o bobl ifanc yn dod ynghyd ar gyfer perfformiad go arbennig.
Mae nifer o ysgolion o Gymru ar daith i'r Unol Daleithiau ar hyn o bryd, ac fe benderfynodd un athro ddod â phawb at ei gilydd i ganu Hen Wlad fy Nhadau yn un o leoliadau mwyaf eiconig Efrog Newydd.
Yn ôl Dr Huw Griffiths o Ysgol Bro Myrddin, roedd o'n awyddus i "wneud rhywbeth hollol wallgo'" gan fod nifer o Gymry yn y ddinas ar yr un pryd, felly fe benderfynodd wahodd pawb i ymuno â chôr yr ysgol ar y sgwâr.
Yn ogystal, fe roddwyd gwahoddiad i Gymdeithas Dewi Sant Efrog Newydd, yn y gobaith o ddenu Cymry alltud y ddinas i ymuno yn y canu.

Ymysg yr ysgolion fu'n rhan o'r digwyddiad, roedd:
Ysgol Bro Dinefwr
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Morgannwg
Ysgol Bro Myrddin
Ysgol Bro Pedr
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
Ysgol Uwchradd Llanisien

Roedd Ffion o Gaerdydd yn rhan o'r fflash-mob, ac fe ddywedodd ei bod "yn anrhydedd fawr i fod yn Efrog Newydd yn canu yn Gymraeg a chynrychioli Cymru mewn ffordd mor bositif, ar raddfa bydd llawer o bobl yn ei weld - fel y dorf enfawr sy' yma heddiw."
Mae Sion Rogers - sy'n byw a gweithio yn Efrog Newydd - ymysg y rhai aeth draw wedi'r cyhoeddusrwydd ar wefannau cymdeithasol.
"Dw i erioed di cerdded trwy'r sgwâr a chlywed gymaint o bobl yn siarad Cymraeg. Teimlad anhygoel!" meddai.

Oeddech chi yno?