Pier Bae Colwyn: Cyn berchennog yn colli achos Uchel Lys
- Cyhoeddwyd
Mae cyn berchennog pier Bae Colwyn wedi colli achos yn yr Uchel Lys i drosglwyddo'r pier yn ôl i'w berchnogaeth.
Ond dywedodd Steve Hunt y byddai'n apelio yn erbyn y penderfyniad.
Cafodd ei wneud yn fethdalwr yn 2008 ac roedd yn honni y dylai'r pier fod wedi cael ei drosglwyddo'n ôl iddo dair blynedd yn ddiweddarach pan nad oedd wedi ei werthu.
Dadleuodd ei fod wedi parhau i fyw ar y pier mewn "tŷ preswyl" yn un o'r adeiladau a hynny ar ôl cael ei wneud yn fethdalwr.
Mae Cyngor Sir Conwy wedi croesawu dyfarniad y barnwr yn yr achos.
Dyfarniad
Ddydd Mawrth dywedodd y barnwr, Mr Ustus Morgan, mai un rheswm pan na ddylai Mr Hunt dderbyn gorchymyn yn cadarnhau ei berchnogaeth o'r adeilad oedd achos cyflwr gwael y pier.
"Y sefyllfa bresenol yw bod y pier yn anniogel, yn risg ddifrifol i ddiogelwch y cyhoedd ac fe allai ddisgyn ar unrhyw foment," meddai'r dyfarniad.
"Nid yw Mr Hunt mewn sefyllfa ariannol i adnewyddu'r tŷ preswyl nac unrhyw ran o'r pier fel bod modd iddo gael mynediad i'r tŷ preswyl."
Ychwanegodd y barnwr: "Ar sail y dystiolaeth o fy mlaen, mae'r pier yn anniogel. Nid oes modd ei adnewyddu o gwbl ac, yn sicr, nid oedd modd ei adnewyddu o fewn costau rhesymol.
"Petawn i'n rhoi hawl dros y pier i Mr Hunt, fe fyddai'n berchen ar adnodd ag iddo ddim gwerth neu werth negyddol."
Dymchwel
Roedd Cyngor Sir Conwy wedi dadlau fod y pier wedi ei drosglwyddo i Ystâd y Goron yn 2011 ar ddiwedd cyfnod o dair blynedd pan roedd Mr Hunt yn fethdalwr.
Fe arwyddodd y cyngor gytundeb i brynu'r pier yn 2012. Mae wedi gwneud cais i ddymchwel y pier ers hynny, ond gwrthododd Llywodraeth Cymru y cais yn ddiweddar.
Dywedodd Mr Hunt ei fod yn credu bod modd adnewyddu'r pier.
"Nid yw'r penderfyniad yma yn golygu y bydd y caniatâd i ddad-restru a dymchwel y pier, gafodd ei wrthod wythnos diwethaf, yn cael ei gymeradwyo yn syth.
"Mae gan Gronfa Treftadaeth y Loteri arian ar gael i adnewyddu'r pier yn llawn ond byddai angen i Gyngor Conwy gefnogi'r cais."
Cyngor Conwy
Wrth ymateb i'r dyfarniad, dywedodd datganiad gan Gyngor Sir Conwy: "Rydym yn falch iawn bod y Barnwr wedi dyfarnu nad oes gan y cyn-berchennog unrhyw fuddiant cyfreithiol pellach yn y pier, ac mae'n ddrwg gennym bod cymaint o amser ac ymdrech wedi'i dreulio yn gorfod amddiffyn y camau annoeth hyn.
"Fodd bynnag, gallwn bellach ganolbwyntio ein hadnoddau ar ddyfodol y pier, beth bynnag a fydd hynny, heb ymyrraeth ymgyfreitha dibwrpas."