Carcharu treisiwr am 11 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Lee MullenFfynhonnell y llun, North Wales Police

Mae dyn o Sir y Fflint wedi ei garcharu am 11 mlynedd yn Llys y Goron yr Wyddgrug am dreisio dynes ar ôl ei chlymu gyda thâp parseli.

Roedd Lee James Mullen, 28 oed, o Lannau Dyfrdwy, wedi gwasgu hosan i geg y ddioddefwraig a chlymu'r tâp o amgylch ei cheg a'i phen.

Roedd wedi gwadu'r cyhuddiad, ond fe'i cafwyd yn euog gan reithgor o dreisio a chyflawni ymosodiad rhyw cyn iddo gael ei ddedfrydu ddydd Mercher.

Dywedodd y ddynes yr oedd wedi ei threisio y byddai'n "cael trefn ar ei bywyd" ac na fyddai'n gadael i'r drosedd wastraffu ei bywyd chwaith.

Bydd rhaid i Mullen gofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei oes, ac fe wnaeth y barnwr orchymyn nad yw'n ceisio cysylltu. dilyn neu fynd at y ddioddefwraig mewn unrhyw ffordd pan fydd yn cael ei ryddhau o garchar.