System un ffordd yn Abertawe wedi marwolaethau
- Cyhoeddwyd
Mae system draffig un ffordd wedi ei chyflwyno ar Heol y Brenin yn Abertawe, wedi dwy farwolaeth a damweiniau ar y ffordd.
Cyn hyn, roedd bysiau a thacsis yn cael defnyddio dwy ochr y ffordd, er mai un ffordd yn unig yr oedd cerbydau eraill yn cael teithio.
Mae'r newid yn golygu mai dim ond i'r gorllewin y bydd traffig yn teithio o hyn allan.
Marwolaethau
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae dau o bobl wedi eu lladd ar Heol y Brenin.
Cafodd rhwystrau diogelwch eu gosod wedi marwolaeth Louise Lucas ym mis Mawrth, i atal cerddwyr rhag croesi.
Yn ôl ym mis Medi 2013, bu farw Daniel Foss a chafodd dyn arall ei anafu ar 4 Awst eleni.
Mae'r newidiadau'n rhan o waith gan gyngor y ddinas yn yr ardal hon, cyn i ragor o welliannau gael eu cyflwyno dros y blynyddoedd nesaf.
Dywedodd David Hopkins, aelod cabinet ar yr amgylchedd a thrafnidiaeth : "Bydd newid i system un ffordd ar gyfer bysiau a cheir gobeithio'n golygu y bydd y ffordd yn fwy diogel i gerddwyr."