Undeb yn anhapus â nawdd i Ysgol Gymraeg Llundain

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gymraeg Llundain
Disgrifiad o’r llun,

Plant Ysgol Gymraeg Llundain yn ystod dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn San Steffan y llynedd

Mae cyfarwyddwr undeb ATL Cymru wedi dweud wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ei fod o'n 'synnu' bod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu'n ariannol at Ysgol Gymraeg Llundain.

Dywedodd Phillip Dixon ei fod wedi syfrdanu â'r ffaith fod yr hyn mae o'n galw yn 'ysgol breifat' yn Llundain yn derbyn nawdd cyhoeddus tra bod ysgolion yng Nghymru yn wynebu toriadau.

Daw ei sylwadau ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod Prif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo talu £90,000 y flwyddyn i Ysgol Gymraeg Llundain am y tair blynedd nesaf.

Dywedodd Eleri Brady, cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol: "Mae 'na nifer o ysgolion yn Llundain o wledydd gwahanol, ac maen nhw i gyd yn cael arian o'i gwledydd cartref nhw, felly 'da ni ddim yn meddwl ei fod yn beth mor rhyfedd â hynny i dderbyn yr arian.

"Tydy' ni ddim yn derbyn yr arian o gronfa addysg Llywodraeth Cymru, ond o gronfa diwylliant a hyrwyddo'r iaith Gymraeg, ac mae'r llywodraeth yn teimlo pa mor bwysig ydi hi i hyrwyddo Cymraeg a Chymreictod yn Llundain, a dyna be rydan ni'n ei wneud - mae'r plant fel llysgenhadon bach Cymreig, a 'da ni mor ddiolchgar am yr arian sydd yn dod o Gymru."

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gan yr ysgol rôl bwysig i'w chwarae wrth hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn Llundain.

Hefyd gan y BBC