Paris: Munud o dawelwch yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Cofio yn y Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Y cofio yn y Senedd fore Llun

Bu cyfle i gofio'r rhai fu farw yn ymosodiadau Paris mewn munud o dawelwch yng Nghymru am 11:00 fore Llun.

Roedd gwleidyddion yn y Senedd ymysg y rhai i gymryd rhan yn y tawelwch, oedd yn cael ei gynnal ledled Ewrop.

Dros y penwythnos, cafodd sawl gwylnos ei chynnal, ac adeiladau cyhoeddus wedi eu goleuo â lliwiau baner Ffrainc.

Fe ddywedodd Marie Brousseau-Navarro, conswl anrhydeddus Ffrainc yng Nghymru, fod y gefnogaeth yma yn anhygoel.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gasglodd Maer Caernarfon, Wil Lloyd Davies, a rhai o drigolion y dref o gwmpas y gofeb ryfel ar y Maes

Tridiau o alaru

Mae 'na dridiau swyddogol o alaru yn Ffrainc i gofio'r 132 o bobl gafodd eu lladd mewn ymosodiadau ynghanol Paris nos Wener.

Fe gafodd cannoedd eu hanafu.

Mae'r mudiad sy'n galw eu hunain yn Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi honni mai nhw sy'n gyfrifol.

Disgrifiad o’r llun,

Torf yn cofio yn y Place de la Republique

Disgrifiad o’r llun,

Canhwyllau ger y Place de la Republique

Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn cofio ar y Champs Elyssees yn cofio am y rhai fu farw nos Wener

Cyllido'r heddlu

Yn y cyfamser mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi dweud y bydd angen ail-ystyried y toriadau arfaethedig i'r heddlu os bydd lefel y bygythiad i'r cyhoedd yng Nghymru a gweddill Prydain yn cynyddu.

Wrth siarad ar Raglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru ddydd Llun, dywedodd Winston Roddick, sydd hefyd yn Gadeirydd Cymdeithas Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Prydain: "Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn cydnabod bod rhaid ychwanegu tuag at gyllidebau y pwyllgorau sy'n ymwneud â chasglu gwybodaeth. Ond dim nhw sy'n plismona rheng flaen y sefyllfa yma. Yr heddlu sy'n plismona'r rheng flaen, ddim nhw na'r fyddin.

"Felly os yw'r bygythiad yma'n codi un lefel bydd rhaid, yn fy marn i, i'r llywodraeth ailystyried y toriadau maen nhw'n dweud sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol agos."

Ychwanegodd: "Os yw'r bygythiad yn newid ei lefel, credaf y byddwch yn gweld rhagor o blismyn yn cario arfau.

"Mae'r sefyllfa yn wahanol yma i beth yw'r sefyllfa yn Ewrop. Mae'r ffiniau yn llawer iawn gwell yn fan hyn. Da chi'n gallu croesi ffiniau'n haws yn Ewrop a dyna pam mae lefel y perygl yn wahanol yn fan hyn."

Ffynhonnell y llun, Aimee Caines
Ffynhonnell y llun, Aimee Caines