Bwrdd Iechyd Betsi yn talu cyn bennaeth i weithio yn Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Purt
Disgrifiad o’r llun,

Mae Betsi Cadwaladr yn parhau i dalu Trevor Purt, er ei fod yn gweithio yn Lloegr

Mae bwrdd iechyd mwyaf Cymru yn parhau i dalu cyflog £200,000 ei gyn brif weithredwr, er ei fod yn gweithio yn Lloegr.

Mae Trevor Purt wedi cael secondiad i wasanaeth iechyd dros Glawdd Offa am 12 mis.

Fe ymddiswyddodd o'i swydd gyda Betsi Cadwaladr fis diwethaf yn dilyn cyhoeddiad y bydd y corff yn parhau mewn mesurau arbennig am ddwy flynedd.

Mae'r bwrdd yn gobeithio y bydd prif weithredwr newydd yn ei le yn y flwyddyn newydd.

Yn ymddangos ger bron Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, gofynnwyd i gadeirydd Betsi Cadwaladr os oedd y trefniant yn werth da am arian.

Dywedodd Dr Peter Higson: "Rwy'n meddwl, o dan yr amgylchiadau, o'r opsiynau oedd o'n blaenau ni, mai dyma fwy na thebyg oedd yr dewis gorau o ran cost yn gyffredinol ac o ran caniatáu i'r bwrdd iechyd symud yn gyflym i benodi prif weithredwr newydd."

Fe gafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei roi dan fesurau arbennig ym mis Mehefin.

Gwaharddwyd Mr Purt o'i waith bryd hynny a cadarnhaodd y bwrdd ei fod yn camu o'r neilltu ym mis Hydref.

Dyfodol

Yn y cyfamser mae Carwyn Jones wedi lled-awgrymu y gallai maint Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gael ei leihau petai'r blaid Lafur yn ennill grym yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y prif weinidog na fyddai unrhyw newid cyn yr etholiad ym mis Mai ond y gallai "opsiynau eraill" gael eu hystyried yn y dyfodol.

"Nid oes cynlluniau i newid unrhyw beth cyn yr etholiad, gallaf ddweud hynny," meddai yn ystod cwestiynau i'r prif weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth.

"Ond mae 'na le i ofyn os mai un bwrdd iechyd yw'r ffordd ymlaen i'r holl ogledd, neu ddylie opsiynau gwahanol gael eu hystyried?

"Bydd angen edrych ar y materion hyn yn y dyfodol."

Cafodd y bwrdd iechyd ei roi dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin.

Wrth ymateb i gwestiynau gan arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies am sefyllfa Trevor Purt, dywedodd Carwyn Jones nad oedd Mr Purt wedi derbyn pecyn diswyddo gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Fel rhan o'i secondiad bydd Mr Purt yn cynhyrchu "adroddiad dysgu gwersi...ar integreiddio ar draws sefydliadau partneriaethol a'r Gwasanaeth Iechyd yn fwy cyffredinol".

Bydd ei gyfnod gyda'r bwrdd iechyd yn dod i ben ar ddiwedd ei secondiad yn Hydref 2016.