Ffrwydrad Celsa: Cyhoeddi enwau dau fu farw
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enwau dau ddyn fu farw mewn ffrwydrad ar safle gwaith dur Celsa yng Nghaerdydd.
Bu farw Peter O'Brien, 51 o Lanisien yng Nghaerdydd, a Mark Sim, 41 o Gil-y-Coed, Sir Fynwy wedi'r ffrwydrad ddydd Mercher.
Cafodd pump o bobl eu hanafu yn y digwyddiad ar y safle gwaith dur yn Sblot. Cafodd pedwar eu cludo i'r ysbyty ond dim ond un sy'n parhau i fod yn yr ysbyty erbyn hyn.
Parhau mae'r ymdrechion i symud cyrff y ddau weithiwr gafodd eu lladd.
'Cawr o ddyn'
Dywedodd brawd Mr O'Brien, Kevin, wrth y BBC ei fod yn "gawr o ddyn" oedd yn "caru'i fywyd yn y gwaith dur".
"Dyn teulu oedd o," meddai. "Gŵr i Marie a thad i Keiran, Hannah, Sean, Rachel, Martha a Dominic; mab i Sheila a Bart; brawd i Bernard, Kevin a Catherine. Bydd colled ar ei ôl."
Dywedodd fod Mr O'Brien wedi ymuno â Celsa fel prentis 19 oed, pan oedd y cwmni dan yr enw Allied Steel and Wire. Cafodd ei enwi'n Brentis Cymreig Gorau'r Flwyddyn pan oedd yn 19 oed.
Gadawodd yr ysgol gydag un lefel O, ond dilynodd gyrsiau nos ac yn y diwedd enillodd radd prifysgol dosbarth cyntaf.
Ychwanegodd ei frawd fod Mr O'Brien wedi gweithio mewn amryw o lefydd cyn dychwelyd i Celsa fel peiriannydd.
Mewn teyrnged, dywedodd ei ffrindiau a'i gyd-aelodau yng Nghlwb Rygbi St Peter's yn y Rhath: "Mae Clwb Rygbi St Peter's yn cydymdeimlo'n ddwys gyda theulu Peter O'Brien.
"Roedd Peter yn aelod poblogaidd iawn, wnaeth gynrychioli'r clwb mewn rygbi a phêl-fas. Roedd yn un o'r sylfaenwyr ac yn bencampwr presennol Clwb Bowlio St Peter's.
"Roedd Peter yn ddyn teulu. Bydd colled fawr ar ei ôl."
Roedd ei gyd-weithiwr Mr Sim yn wreiddiol o Newcastle ond roedd yn byw yn ne Cymru ers rhai blynyddoedd.
Roedd ganddo wraig, Sam, ac mae'n gadael mab a merch ifanc.
'Diwrnod trasig'
Mewn datganiad y tu allan i safle'r gwaith dur yn ardal Sblot, dwedodd Luis Sanz, Prif Swyddog Gweithredol Celsa, fod y cwmni'n cydymdeimlo'n ddwys gyda theuluoedd y rhai fu farw.
"Mae cynnig cefnogaeth i'r teuluoedd yn flaenoriaeth i ni. Roedd ddoe yn ddiwrnod trasig i'n teulu ni yn Celsa."
Dywedodd Mr Sanz fod y cwmni'n "hynod ddiolchgar i'r gymuned leol am y gefnogaeth sydd wedi ei dangos ar adeg anodd."
Ychwanegodd fod Celsa'n gweithio gyda'r awdurdodau er mwyn ceisio dod o hyd i union achos y ffrwydrad ddydd Mercher.
"Er cof am ein cydweithwyr, rydym yn ymdrechu i osgoi diwrnod arall tebyg i ddoe."
Mae'r ymchwiliad i achos y ffrwydrad hefyd yn parhau.
Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi cydymdeimlo â theuluoedd y bobl fu farw.