Ateb y Galw: Sara Lloyd-Gregory

  • Cyhoeddwyd
Sara

Yr actores Sara Lloyd-Gregory sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan ei thad a'i hewythr, y brodyr Gregory.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Perfformio fel Mrs Sion Corn yn sioe Nadolig yr ysgol feithrin.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Ym... S'neb yn gwbod hyn ond Huw Tudur aka Twm Sion Cati o'dd mewn Panto gyda Dad a Paul (Y Brodyr Gregory), o'n i'n 5 oed?!!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gadael tray i gwympo a thorri 12 o wydrau coctêl yn ystod parti plu fy ffrind.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ar lwyfan yn actio gyda Gareth Pierce... Nid achos fy mod yn actio gyda Gareth Pierce, hahaha!!!

Disgrifiad o’r llun,

Sara yn perfformio gyda Gareth Pierce. Yw'r dagrau ar fin dechrau llifo?

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Byth ar amser... 'Fashionably late'!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ma' dewis un lle yn anodd. Llandeilo. Mae'n brydferth, ac yn gartrefol i fi.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Y noson wnes i ennill BAFTA Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Sara'r wobr y Brif Actores yn seremoni wobrwyo BAFTA Cymru 2013 am chwarae'r cymeriad Alys yn y gyfres o'r un enw ar S4C

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Ffyddlon, gweithgar a stwbwrn

Beth yw dy hoff lyfr?

Allai ddim dewis un. Dwi yn darllen LOT!

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Onesie.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Amy (ffilm ddogfen am y gantores Amy Winehouse)

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Carey Mulligan

Disgrifiad o’r llun,

Carey Mulligan yn serennu yn y ffilm ddiweddar 'Suffragette'

Dy hoff albwm?

Albwm gynta' Tracy Chapman.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a be fyddai'r dewis?

Prif gwrs, bob tro!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Fy nith, Myfi. Ma' hi'n 4 wythnos oed ag yn cysgu drwy'r dydd... Nefoedd!

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Eiry Thomas