Nawdd ychwanegol i amddiffyn planhigion prin
- Cyhoeddwyd
Mae ymdrechion i amddiffyn planhigion prin sy'n tyfu ar Fynydd Helygain yn Sir y Fflint wedi derbyn nawdd ychwanegol.
Bydd y gwaith o glirio eithin er mwyn creu cynefin gwell ar gyfer y planhigion yn parhau, gyda chymorth nawdd ariannol o £3,000.
Yn ôl Ceirios Davies, swyddog cadwraeth Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'r gwaith torri [eithin] yn agor rhannau o weundir i fyny i'w bori gan ddefaid a fydd yn cynorthwyo rheolaeth y cynefin yn y tymor hir."
Mae Sw Caer wedi cynorthwyo gyda'r gwaith, a dywedodd swyddog bioamrywiaeth y sw, Sarah Bird: "Mae'n gyffrous gallu helpu i adfer Comin Helygain, gan ei fod yn safle mor bwysig i fywyd gwyllt ac yn adnodd gwerthfawr i'r gymuned ffermio leol hefyd.
"Rydw i'n edrych ymlaen at weld beth fydd yr effaith y flwyddyn nesaf ar ôl clirio'r eithin, gan obeithio gweld mwy o blanhigion a blodau gwyllt prin yn dychwelyd i'r llecynnau lle y mae'r eithin wedi'u torri."
Mae'r ardal wedi ei ddynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig, a hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig "ar sail ei gynefinoedd a'i blanhigion prin o bwysigrwydd Ewropeaidd".