Ateb y Galw: Eiry Thomas

  • Cyhoeddwyd
Eiry

Yr actores Eiry Thomas sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Sara Lloyd-Gregory.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd mas y bac yn nhŷ mamgu a tadcu yn Ystrad Fawr, yn fy nghewyn, wedi ymgolli yn llwyr ym myd y morgrug!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Han Solo!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Llongyfarch (yn egnïol, frwdfrydig) menyw efo bola mawr, o'n i'n meddwl oedd yn disgwyl babi - doedd hi ddim. Nath hi fygwth pwno fi. Dwi wedi gwneud hyn sawl gwaith yn anffodus.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Crio hapus pan gwrddais fy nai bach newydd i fis yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Roed Eiry yn un o gymeriadau canolog 'Pen Talar'

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n osgoi ffurflenni, ac ofn taflenni cyfarwyddiadau. Siarad mewn llais uchel sili efo anifeiliaid.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Nant Lleucu yng ngerddi pleser Parc y Rhath. Dwi yno pob dydd efo'r ci, Cardi!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

1981. Ar ôl ymddangos ar lwyfan theatr y Dominion yn Llunden mewn cynhyrchiad o 'The Cunning Little Vixen' (WNO), aeth gang ohonom ni blant (perfformwyr) lawr Tottenham Court Rd i gael WIMPY. Yn y NOS, a wedyn nôl i westy crand am y noson! Living the dream!

Disgrifiad o’r llun,

Eiry yn chwarae Siwan yn 'The Royal Bed', addasiad Saesneg o ddrama Saunders Lewis

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Yn famol, di-drefn, jolihoitwraig!

Beth yw dy hoff lyfr?

Ffili dewis, mwynhau 'The Miniaturist' gan Jessie Burton ar hyn o bryd.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Fy nghot fawr cwtchlyd. Wy'n teimlo'r oerfel. Mas ym mhob tywydd efo'r ci!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Birdman' - wow!!

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fydda'n chwarae dy ran di?

Wy'n gwbod bod e di marw ond... Charles Hawtrey!

Disgrifiad o’r llun,

Ai 'Carry on Eiry!' fyddai enw'r ffilm?

Dy hoff albwm?

The Beatles, 'White Album'.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a be fyddai'r dewis?

Cinio dydd sul: cyw iâr tatws rhost a.y.y.b, ac os oes lle ar ôl, wy'n itha lico stici toffi pwdin!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Rhywun fel Kate Humble, neu Iolo Williams. Cael dy dalu i grwydro trwy'r byd, a rhyfeddu ar fyd natur, ac ymweld â llefydd cyffrous naturiol.

Pwy fydd yn Ateb y Galw nesaf?

Mari Gwilym