S4C: Cwtogiad o £1.7m erbyn 2020
- Cyhoeddwyd
Dywed S4C eu bod wedi cael gwybod y byddant yn gorfod gwneud arbedion o £1.7 miliwn erbyn 2020 o ganlyniad i Adolygiad Gwariant y Llywodraeth.
Fe fydd cyfraniad blynyddol yr Adran Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Celfyddydau yn cael ei dorri o £6.7m i £5m.
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones: "Mae'r penderfyniad i dorri'r cyllid mae S4C yn ei dderbyn gan y llywodraeth ganolog yn fater o siom i ni, yn enwedig gan ei fod yn doriad sy'n sylweddol uwch na'r toriad cyffredinol y mae'r adran wedi ei dderbyn."
Ddydd Mercher yn Nhŷ'r Cyffredin dywedodd y Canghellor George Osborne y bydd cyllid yr Adran Ddiwylliant yn cael ei dorri o 5%, ond eto'n addo mwy o arian i Gyngor y Celfyddydau yn Lloegr a UK Sport.
Ffi'r drwydded
Yn ôl Mr Jones roedd cyhoeddiad y canghellor yn "rhoi pwyslais hyd yn oed mwy tyngedfennol ar ganlyniad y trafodaethau rydym yn eu cynnal gydag Ymddiriedolaeth y BBC wrth i ddyfodol ariannu S4C drwy ffi'r drwydded gael ei benderfynu".
"Ar hyn o bryd mae S4C yn derbyn tua 90% o'i chyllid drwy ffi'r drwydded ac mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi awgrymu y dylai S4C ddod o hyd i arbedion tebyg i'r arbedion y disgwylir i'r BBC eu gweithredu.
"Er y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i flaenoriaethu'r hyn sy'n cael ei wario ar gynnwys ac ar safon rhaglenni, mae'n anochel y bydd gan doriadau o'r math yma oblygiadau ar gyfer ystod ac amrywiaeth y gwasanaeth, a'r gallu i fanteisio ar gyfleodd newydd.
"Unwaith y bydd y darlun llawn yn glir, bydd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda chynhyrchwyr a gyda staff i drafod y dewisiadau anodd sydd o'n blaenau."
Ymateb i'r cyhoeddiad
Mae cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru, Iestyn Garlick, hefyd wedi mynegi siom am y penderfyniad, gan ddweud nad yw'r Canghellor wedi gwrando ar y ddadl nad yw cyllideb S4C yn gynaliadwy heb fuddsoddiad pellach.
"Mewn cyfnod lle mae hunaniaeth cenedlaethol a rhanbarthol pobl yn fwyfwy pwysig iddyn nhw, mae'n anffodus bod sefydliad mor bwysig yn economaidd a diwylliannol, yn cael ei danseilio gan gwtogiad parhaus mewn cyllido mewn termau real."
Siom hefyd oedd ymateb AS Ceidwadol Sir Drefaldwyn, Glyn Davies.
"Dwi ddim eisiau arian yn dod o S4C," meddai wrth raglen Post Prynhawn, BBC Cymru.
"Ro'n i wedi gofyn i John Whittingdale (Ysgrifennydd yr Adran Ddiwylliant) i beidio torri nôl. Os ydi hynny'n digwydd dwi ddim yn ei groesawu, a bydd rhaid i mi siarad â John Whittingdale ac S4C."
Fe wnaeth Ceidwadwr arall, Guto Bebb AS Aberconwy drydar: "Dim cyfiawnhad dros leihau cyllideb S4C eto. Cam gwag a thorri addewid maniffesto."
'Yn ei chyfanrwydd'
Wrth ymateb i'r feirniadaeth dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru:
"Fe ddylid ystyried cyllideb S4C yn ei chyfanrwydd, gan fod mwyafrif yr arian nawr yn dod drwy ffi trwydded y BBC.
"Cafodd S4C ei diogelu yn ystod yr Adolygiad Gwariant blaenorol, gan osgoi toriadau roedd adrannau a chyrff eraill yn gorfod wynebu yn ystod cyfnod y Senedd ddiwethaf.
"Rydym nawr yn gofyn i S4C chwarae eu rhan gyda'r toriad bychan yma, ac mae angen gweld hyn yn y cyd-destun ehangach.
"Mae'r llywodraeth yn parhau i ymroi yn llwyr i ddarlledu yn yr iaith Gymraeg."