Rhoi organau: Y sefyllfa dramor
- Cyhoeddwyd

Wrth i Gymru baratoi i newid trefn rhoi organau ar 1 Rhagfyr, bu Cymru Fyw yn edrych ar y sefyllfa dramor.

Sbaen ar y brig
Rhoi organau: Dilyn trywydd y Sbaenwyr?
Ledled y byd, Sbaen sydd â'r raddfa ucha' o bobl yn rhoi organau.
Mae'r wlad yn dilyn cynllun tebyg i'r hyn sydd ar droed yng Nghymru, ond yn ôl y dyn wrth y llyw yno, Dr Rafael Matesanz, mae angen gwneud mwy na newid y gyfraith.

Gwlad Belg yn cyrraedd y nod?
Adroddiad Hywel Griffith
Mae Gwlad Belg yn dilyn patrwm tebyg i Sbaen, ond mae'r wlad dipyn yn is ar raddfa'r byd.
Bu gohebydd BBC Cymru, Hywel Griffith yno yn gweld beth allai ddigwydd yng Nghymru pan mae'r drefn yn newid yma.

Rhagfyr 1
Ddydd Mawrth, bydd newidiadau i'r drefn yn dod i rym yng Nghymru. Bydd Cymru Fyw yn clywed gan bobl sydd wedi bod yn rhan o bob cam o'r broses, yn ogystal â chael golwg fanwl ar y ddeddf yng nghwmni gohebydd iechyd BBC Cymru, Owain Clarke.