Caplan yn cofio gweddïo am gymorth cyn rhoi'r ddefod olaf i gleifion Covid

Y Tad Jason Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Mae pobl yn ystod y cyfnod clo wedi rhoi cefnogaeth i bobl eraill, felly nawr yn y gymuned a'r plwy a Threforys ma pethe wedi newid," meddai'r Tad Jason Jones

  • Cyhoeddwyd

Wrth i ail adroddiad ymchwiliad Covid 19 y DU gael ei gyhoeddi ddydd Iau, mae'r Tad Jason Jones yn cofio'r person cyntaf iddo weld yn marw o'r feirws ac yntau yn cael ei alw i roi'r ddefod olaf (last rites) wrth ochr y gwely.

Mae'r caplan yn ysbyty Treforys yn cofio gweddïo am gymorth cyn mynd i mewn i'r ystafell.

Ond er mor anodd oedd y pandemig, wrth edrych yn ôl, mae yn pwysleisio'r elfen bositif wrth sôn am bentrefi a chymunedau yn tynnu at ei gilydd.

Mae ei gymuned leol "wedi tyfu mor glos" wedi heriau'r pandemig, meddai.

"Mae pobl yn ystod y cyfnod clo wedi rhoi cefnogaeth i bobl eraill, felly nawr yn y gymuned a'r plwy' a Threforys ma pethe wedi newid."

Trwy gydol y pandemig roedd yna alwadau cyson arno i fynd i mewn i'r ysbyty i gysuro a chynghori, ac mae'n cofio ei ffôn yn canu yn ddibaid bob awr o'r dydd.

"Roedd y switchboard yn ffonio fi trwy'r nos, trwy'r dydd yn dweud bod angen offeiriad i ddod i ddarllen y last rites.

"Roeddwn i yn teimlo mor agos at bobl achos yr oeddwn i yn sefyll gyda nhw yn eu marwolaeth ac yn eu profiadau oedd mor anodd."

'Dim hawl gan y teulu i sefyll wrth ochr y gwely'

Ar y pryd, roedd cynnig cysur yn anodd oherwydd y cyfyngiadau - doedd pobl ddim yn cael dod yn agos at ei gilydd.

Fe fyddai felly yn cadw mewn cysylltiad yn gyson trwy anfon negeseuon testun a chael sgyrsiau dros y ffôn â theuluoedd cleifion oedd yn poeni, neu yn galaru.

"Roedd yn anodd i ddechre i gysuro pobl oherwydd y restrictions. Doeddech chi ddim yn gallu sefyll yn agos i bobl," meddai.

"Felly bob dydd bydde ni yn ffonio'r teulu yn dweud bo fi di bod i weld eu perthynas neu wedi dathlu'r last rites.

"Doedd dim hawl gan y teulu i sefyll wrth ochr y gwely - felly bydden i hefyd yn sefyll yno yn eu lle yn rhoi cysur i'r cleifion a hefyd i'r teulu a'r staff."

Arwydd cadw pellter Covid-19 mewn ardal siopa ddinesig gyda'r hwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhwng 2020 a 2024 roedd dros 12,000 o farwolaethau yng Nghymru yn gysylltiedig â'r feirws

Ar hyd yr amser, roedd pobl yn awchu am wybodaeth.

Nid teuluoedd cleifion yn unig fyddai yn holi am y diweddaraf, roedd yr ardal gyfan am gael gwybod beth oedd yn digwydd yn yr ysbyty.

"Bob dydd bydden i yn siarad â nifer o bobl," meddai'r Tad Jason.

"Teulu nyrsys a phobl yn y gymuned yn gofyn be oedd yn digwydd. Faint o farwolaethau heddi. Roedd pobl ishe gwybodaeth."

Trwy gydol y pandemig, fe fyddai'r Tad Jason yn ymweld â'r ysbyty bob dydd i weld y cleifion a hefyd yn helpu ei blwyfolion yn Eglwys Gatholig y Sacred Heart yn Nhreforys.

Roedd yna heriau, meddai, ac emosiynau cymysg, ond wrth edrych yn ôl, yr hyn sy'n bwysig iddo yw ei fod e, fel caplan ysbyty, wedi gallu bod yno wrth ymyl degau o gleifion a sicrhau nad oedden nhw ar eu pennau eu hunain yn ystod y munudau olaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig