Ateb y Galw: Mari Gwilym
- Cyhoeddwyd

Mari Gwilym sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan yr actores Eiry Thomas yr wythnos diwethaf.
Beth yw dy atgof cyntaf?
Cnoi ysgwydd Mam a gollwng glafoerion wrth hel dannadd!
Pwy oeddet ti'n ei ffansîo pan yn iau?
Jo Bach (dwi'n dal yn ei ffansîo fo!)
Beth oedd y digwyddiad gododd fwy'a o gywilydd arnat ti erioed?
Pi-pi ar Moel Siabod, a'r fyddin, oedd yn ymarfer yno yn ddiarwybod i mi, yn mynd heibio ac yn fy nghymeradwyo.

Roedd angen dropyn o wisgi ar Mari ar ôl y digwyddiad anffodus ar Foel Siabod!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Pan welais eitem newyddion yn ddiweddar am ddyn oedd wedi llosgi'n ddifrifol yn cael trawsblaniad gwyneb newydd.
Oes gen ti arferion drwg?
Gormod i'w rhestru!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Aber yr Afon Llyfni. Dyna fy nghynefin. Mae'r ardal yn hynafol iawn - llawn bywyd gwyllt a llên-gwerin, a hen, hen ffrindia' a chydnabod.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Un o'r rhei'ny oedd honno yn Theatr y Sherman, Caerdydd hefo ffrindiau o'r Gogledd a'r De ar fy mhenblwydd yn 41, yn dathlu perfformio'r noson olaf o'r 'Claf Diglefyd' gan Moliérè pan chwaraeais ran y forwyn, 'Toinette.
Disgrifia dy hun mewn tri gair:
Byr, boliog, blewog... (Ta ngŵr i ydy hwnnw, d'wch?!)

Mari (canol ar y dde) yn dod wyneb yn wyneb gyda tipyn o dderyn ym mhantomeim 'Mwstwr yn y Clwstwr'
Beth yw dy hoff lyfr?
Gormod o ddewis, ond newydd fwynhau 'Y Bwthyn' gan Caryl Lewis.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Nicar.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist ti?
'Kind Hearts and Coronets'.
Mewn ffilm o dy fywyd, pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?
Oes 'na actores o Gymraes 'run siâp a'r un llais â fi'n bodoli?!

Dy hoff albwm?
Llawer. Methu penderfynu.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?
Cwrs cyntaf: spare-ribs sdici, hollol afiach... Iym!
Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Rhywun tal, tlws a cherddorol... Elin Fflur a'i choesa' hir ella?
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Phyl Harries

"Ww... be' ddudis i wrth y bobol Cymru Fyw 'na d'wch?"