Dwylo pwy sydd dros y môr?
- Cyhoeddwyd

Mae hi'n dymor ewyllys da ac erbyn hyn mae'n draddodiad yr adeg hon o'r flwyddyn i nifer o gerddorion ryddhau recordiau i godi arian i achosion da.
Mae'r Fonesig Shirley Bassey wedi cydweithio gyda'r triawd Blake i gyhoeddi fersiwn o 'The Christmas Song (Chestnuts Roasting On An Open Fire)' er mwyn codi arian i apêl Hosbis Blant Arch Noa tra bod canwr arall o Gaerdydd, Shakin Stevens, wedi rhyddhau 'Echoes Of Merry Christmas Everyone', adlais o'i gân boblogaidd gyrhaeddodd frig y siartiau Nadolig 30 mlynedd yn ôl yn 1985.
Yn 1985, fel mae'n digwydd, cafodd un o'r recordiau elusennol mwya' poblogaidd yn y Gymraeg ei chyhoeddi - 'Dwylo dros y Môr', dolen allanol
Yn sgîl llwyddiant Band Aid gyda'r sengl 'Do They Know It's Christmas?' adeg y 'dolig yn 1984, penderfynodd Huw Chiswell a chriw o gerddorion eraill benderfynu gwneud rhywbeth tebyg yma yng Nghymru.
Mae nifer o wynebau adnabyddus yn canu ar y record, ac ambell i wyneb llai amlwg, ac efallai ambell un sydd yn ddirgelwch llwyr. Sawl un o'r canlynol 'dych chi'n nabod?


Un anodd i ddechrau. Peidiwch gor wneud hi, neu falle fydd angen meddyg
Ydych chi'n nabod y canwr meddygol?


Barod am bach o blŵs?
Nabod hon heb ei band?


Mae hwn yn fwy adnabyddus fel actor erbyn hyn. Efallai bydd e'n ennill rhan yn y ffilm 'The Godfather'?
Fydd hwn yn gwneud cynnig allwch chi ddim gwrthod? Pwy yw e?


Ydych chi'n nabod y ddau adnabyddus yma?
Gallwch ddarganfod enwau'r ddau yma.


'No whey' wnewch chi nabod hon
'Oes way!'


Un i chi blantos (y 90au) nawr
Ydych chi'n nabod y cyflwynydd enwog?


Pwynt am ei henw, a phwyntiau ychwanegol os fedrwch chi gyfri sawl dant sydd ganddi


Mae'r cerddor yma Ar Lôg ar hyn o bryd
Nabod y cerddor?


Fyddwch chi'n nabod y gân os nad y gantores
A dyma un anodd i orffen. Marciau ychwanegol am enw hon ac enw ei band.