Dyfodol gŵyl jazz Aberhonddu yn y fantol?
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol gŵyl Jazz Aberhonddu 2016 yn y fantol, wedi i'r hyrwyddwyr ddweud na fyddan nhw'n rhedeg y digwyddiad.
Roedd grŵp digwyddiadau - Orchard Media, wedi camu i'r adwy i redeg yr ŵyl flynyddol yn 2012, wrth i'r digwyddiad wynebu sawl her.
Dywedodd Orchard ddydd Iau mai "ystyriaethau ariannol" oedd tu ôl i'r penderfyniad.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, oedd wedi buddsoddi £100,000 yn 2015 wedi awgrymu na ddylid cynnal yr ŵyl yn 2016.
"Er mwyn ffynnu yn y dyfodol, mae'n glir y byddai'n rhaid i bartneriaid eriall ymuno gyda Chyngor y Celfyddydau i ddarparu buddsoddiad fyddai'n caniatáu i ŵyl fel hon i ddigwydd" meddai llefarydd ar ran Cyngor y Celfyddydau.
"Ryda ni'n derbyn bod hyn yn her fawr mewn cyfnod economaidd anodd. Ond fe fyddai blwyddyn o saib yn 2016 yn rhoi cyfle i ni weld a fyddai partneriaethau felly'n bosibl."
Hwb i economi'r canolbarth
Dywedodd cyfarwyddwr Orchard Media, Pablo Janczur bod y cwmni wedi trio'i orau i barhau, a'i fod yn gobeithio y gall rhywun gymryd yr awenau oherwydd enw da'r ŵyl yn rhyngwladol, a'i fod yn rhoi platfform arbennig i dalent yng Nghymru, yn ogystal â hwb i economi'r canolbarth.
Ond ychwanegodd, "er gwaetha miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, y gwir amdani yw nad yw coffrau'r ŵyl wedi tyfu.
"Nid yw Orchard wedi gallu cymryd tâl am y gwaith rheoli bob blwyddyn."
Ychwanegodd Mr Janczur, "Allwn ni ddim parhau gyda cholledion felly."