Gwrthdrawiad Llantrisant: Cyhoeddi enw tad a mab fu farw

  • Cyhoeddwyd
Stuart Bates a Fraser Bates

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enwau tad a'i fab saith oed fu farw wedi i'r ddau gael eu taro gan gar yn Rhondda Cynon Taf.

Fe gafodd Stuart Bates, 43 oed, a'i fab Fraser eu taro ar yr A4119 ger Llantrisant ar gyrion pentref Tonysguboriau am tua 00:30 ddydd Sul.

Dywedodd Heddlu'r De bod dyn 22 mlwydd oed oedd yn gyrru car Alfa Romeo wedi ei arestio yn dilyn y digwyddiad, ond ei fod bellach wedi'i ryddhau ar fechnïaeth.

Roedd Mr Bates, o Lanisien, Caerdydd, yn rheolwr technoleg gwybodaeth yng Nghaerffili, a bu farw yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn fuan wedi'r gwrthdrawiad.

Bu farw Fraser - disgybl yn Ysgol Gynradd Llysfaen - yn Ysbyty Plant Bryste nos Sul.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.