Irfon Williams wedi gwella'n llwyr o ganser
- Cyhoeddwyd
Mae Irfon Williams, dyn o Fangor a glywodd gan feddygon fod ganddo ddwy flynedd a hanner i fyw, wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod bellach wedi gwella'n llwyr o ganser.
Roedd gan Irfon ganser yn y coluddyn a'r iau, ond dywedodd ar Raglen Dylan Jones ar Radio Cymru fore Llun fod "profion gwaed a sganiau yn dangos nad oes canser yn bodoli" yn ei gorff.
Roedd wedi symud i Loegr i gael triniaeth, am nad oedd cyffur perthnasol ar gael iddo yng Nghymru.
"Dwy flynedd yn ôl i wythnos yma cychwynnais efo symptomau poen yn y bol ac wedi rhwymo," meddai.
"Ar ôl profion, darganfuwyd fod canser y coluddyn arna i a oedd wedi cyrraedd yr iau.
"Ar ôl dwy flynedd o driniaeth, rwyf yn falch i ddweud - er 'mod i'n dal i gael dros y llawdriniaeth - fod profion gwaed a sganiau yn dangos nad oes canser yn bodoli a fy mod yn swyddogol 'in remission'."
Pan gafodd wybod fod ganddo ganser bron i ddwy flynedd yn ôl, dywedodd iddo gael triniaeth "a gofal da iawn" yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ond bod cyffur oedd wedi'i awgrymu iddo gan sawl arbenigwr ddim yn cael ei gyllido yng Nghymru.
Fe gafodd ei drin â chyffur cetuximab, ond oedd rhaid iddo symud at berthynas dros y ffin i Loegr i gael y cyffur sy'n cael ei ariannu gan y Gronfa Cyffuriau Canser yno, ac fe gafodd ei driniaeth yn Ysbyty Christie ym Manceinion.
Fe glywodd Mr Williams ym mis Mehefin fod y canser yn ymateb yn dda i'r driniaeth, a bod y tiwmorau yn ei iau wedi lleihau'n arw, gyda maint un ohonyn nhw wedi lleihau o 8cm i 3.5cm.
Mae elusen Tîm Irfon wedi codi dros £90,000 i gleifion canser yng Ngwynedd a Môn, ac mae Irfon Williams hefyd wedi dweud ar Raglen Dylan Jones yn y gorffennol ei fod yn gobeithio ysgrifennu llyfr am ei brofiadau.