Anghytuno am ymchwil Côr y Cewri
- Cyhoeddwyd
Mae tîm o wyddonwyr wedi cyhoeddi gwaith ymchwil sydd yn awgrymu mai dwy chwarel ym mynyddoedd y Preselau oedd tarddiad rhai o gerrig Côr y Cewri - ond nid pawb sy'n cytuno gyda'u damcaniaeth.
Ers y 1920au mae daearegwyr wedi sefydlu fod rhai o gerrig cylch mewnol Côr y Cewri - neu Stonehenge yn Saesneg - wedi dod o dde orllewin Cymru.
Ond mae'r gwaith ymchwil diweddaraf gan wyddonwyr o Goleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Manceinion, Prifysgolion Bournemouth a Southampton, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yn dweud bod y cerrig dan sylw wedi dod o chwareli Carn Goedog a Chraig Rhos-y-felin.
Cafodd y darganfyddiad ei gyhoeddi yng nghyfnodolyn archeolegol Antiquity.
'Amheus'
Ond yn ôl y daearegwr a'r darlithydd Dr Dyfed Elis Gruffydd mae angen bod yn ofalus gyda darganfyddiad diweddaraf y gwyddonwyr.
Dywedodd Dr Elis Gruffydd wrth BBC Cymru: "Rwy'n sicr yn amheus oherwydd 'da ni ddim wedi gweld unrhyw dystiolaeth o gwbl am chwareli.
"Wrth gwrs mae 'na garnau di-ri ar y Preselau, ond mae'r creigiau sydd yn sail i'r carnau hynny yn hollti'n gwbl naturiol dan ddylanwad rhew pan fo dŵr yn ymdreiddio i mewn i'r craciau er enghraifft, mae'r rhew yn gwneud y gweddill.
"Hynny yw, mae 'na slabiau o'r cerrig wedyn yn torri ymaith fel 'tae, ac yn ymgasglu wrth odre' nifer o'r carnau. Nifer ohonyn nhw wedyn yn symud ar ei waered dan ddylanwad disgyrchiant.
Ychwanegodd: "'Da ni'n credu nad dyn fu'n gyfrifol am yr orchest ryfeddol yna ond iâ - a llen iâ oedd yn croesi de orllewin Cymru, croesi'r Preselau 450 o filoedd o flynyddoedd yn ôl - a'r iâ fu'r cyfrwng oedd yn symud y cerrig draw i gyfeiriad gwastadedd Caersallog lle codwyd Côr y Cewri yn ddiweddarach."
Dywedodd nad oedd na unrhyw dystiolaeth o chwareli o gwbl ar fynyddoedd y Preselau: "Nag oes - dim o gwbl. 'Da ni'n gweld y brigiadau hynny'n gwbl gwbl naturiol a dweud y gwir wedyn 'da ni ddim yn gweld bod unrhyw dystiolaeth o gwbl am gloddio fel y cyfryw.
"'Da ni'n derbyn wrth gwrs bod 'na dystiolaeth bod rhai o'r cerrig smotiog wedi dod o Garn Goedog, heb fod yn bell iawn o Frynberian, ac mae 'na rhai cerrig mân, ac wrth mân dwi'n golygu mân hefyd, sydd wedi cael eu canfod yn y pridd yng nghyffiniau Côr y Cewri wedi dod o graig Rhos-y-felin.
"Ond 'da ni'n son yn fanna am gerrig mân iawn - y math o gerrig fydde rhywun yn ei godi ar draeth er enghraifft - nid cerrig mawrion."
Cofeb
Mae'r gwyddonwyr sy'n gyfrifol am y gwaith ymchwil diweddaraf yn credu y gallai'r cerrig sydd bellach ar safle Côr y Cewri yn Wiltshire fod wedi cael eu defnyddio mewn cofeb ger y chwareli, cyn cael eu symud i'r safle yn Lloegr.
Dywedodd cyfarwyddwr y gwaith ymchwil, yr Athro Parker Pearson: "Roedd Côr y Cewri yn gofeb Gymreig o'r cychwyn.
"Os oes modd darganfod y gofeb wreiddiol yng Nghymru o'r lle cafodd Côr y Cewri ei adeiladu, fe fydd modd i ni o'r diwedd i ateb y dirgelwch pam fod Côr y Cewri wedi cael ei adeiladu a pam fod rhai o'r cerrig wedi eu cludo mor bell".
Mae disgwyl i'r tîm gwblhau mwy o waith cloddio ymchwiliadol yn y Preselau yn 2016.