Uned babanod newydd-anedig yn cau eto oherwydd haint

  • Cyhoeddwyd
ysbyty athrofaol cymru

Mae uned babanod newydd-anedig Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi ei chau i gleifion newydd oherwydd haint.

Cadarnhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro nad oes babanod newydd yn cael eu derbyn am driniaeth yn yr uned.

Dim ond ychydig wythnosau yn ôl yr ail-agorodd yr uned wedi iddi gael ei chau oherwydd haint ym mis Awst.

Ar hyn o bryd mae'r uned yn gofalu am 14 o fabanod.

Mae tri o'r rhain wedi cael prawf positif o'r haint Acinetobacter baumanii.

Dywedodd Ruth Walker, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio'r Bwrdd Iechyd: "Rydym wedi rhoi'r gorau i dderbyn babanod i'r uned newydd fel cam dros dro, ar ôl i nifer bychan o fabanod brofi'n bositif.

"Mae'r babanod yn ddiogel, ac mae'r rhai sydd wedi derbyn triniaeth yn ymateb yn dda."

Ychwanegodd nad ydyn nhw'n gwybod eto beth oedd achos yr haint ond eu bod yn cynnal rhagor o brofion.

"Rydym yn gwneud popeth i sicrhau fod y babanod yn ddiogel, ac yn cydweithio gydag eraill i wneud yn siŵr fod y gofal gorau yn cael ei roi i famau beichiog."