Troseddau merched: Heddlu ddim yn barod

  • Cyhoeddwyd
A woman's silhouetteFfynhonnell y llun, Getty Images

Nid yw'r pedwar heddlu yng Nghymru mewn sefyllfa i gynnig gwasanaeth da i ferched sy'n diodde' troseddau "enw da" - trais, priodasau gorfodol ac anffurfio organau rhyw menywod - yn ôl adroddiad newydd.

Mae astudiaeth gan Arolygiaeth Heddlu Ei Mawrhydi wedi edrych ar heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr mewn sawl categori.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad nad oedd Heddlu Dyfed Powys yn foddhaol yn yr un o'r categorïau.

Roedd Heddluoedd Gwent, Gogledd Cymru a De Cymru yn barod mewn rhai meysydd, ond ddim yn gwbl foddhaol ar y cyfan.

Tri llu

Dim ond tri llu - Sir Derby, Northumbria a Gorllewin Canolbarth Lloegr - oedd yn cael eu hystyried yn "barod".

Y pedwar categori dan sylw oedd: arweiniad, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, gwarchodaeth a gweithredu ac atal.

Roedd Heddlu Gwent yn barod yn y ddau gategori cyntaf tra bod Heddlu'r Gogledd a'r De yn barod yn yr ail a'r trydydd categori.

Mae troseddau "enw da" yn cyfeirio at arferion sy'n cael eu defnyddio i reoli ymddygiad merched o fewn teuloedd neu grwpiau cymdeithasol er mwyn 'gwarchod' gwerthoedd diwylliannol neu grefyddol.

Dywedodd Arolygydd Heddluoedd Ei Mawrhydi, Wendy Williams:

"Er bod ymatebion cyntaf heddluoedd yn dda, dim ond nifer fechan o luoedd sydd wedi'u paratoi yn dda ar gyfer cymhlethdodau troseddau 'enw da'.

"Mae'n glir bod gan heddluoedd waith i'w wneud cyn y gall y cyhoedd fod yn hyderus bod troseddau fel hyn yn cael eu deall yn iawn gan yr heddlu, a bod dioddefwyr yn cael eu gwarchod yn effeithiol."

Ymysg argymhellion yr adroddiad, mae prif gwnstabliaid wedi cael eu cynghori i godi ymwybyddiaeth ymhlith swyddogion a staff, ac i gyflwyno system 'baner goch' fel bod modd asesu a rheoli'r risg i ddioddefwyr.