Pyncs Cymru a'r Sex Pistols
- Cyhoeddwyd
![The Sex Pistols, y band ynghanol chwyldro cerddorol y 70au](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17FC8/production/_87184289_3c1392a0-4cd8-4e2d-9e39-049a6c18afed.jpg)
The Sex Pistols, y band ynghanol chwyldro cerddorol y 70au
Mae amryw yn cyfrif 14 Rhagfyr 1976 fel dyddiad roddodd ysgytwad i gerddoriaeth yng Nghymru.
Roedd 'na brotestio ffyrnig yng Nghaerffili i groesawu grŵp pync The Sex Pistols a oedd wedi eu gwahodd i berfformio yn sinema'r Castle yn y dref.
Cyn hyn roedd John Lydon, Paul Cook, Glenn Matlock a Steve Jones wedi perfformio yng Nghymru heb wynebu'r un gwrthwynebiad. Newidiodd popeth ar ôl i'r Pistols regi ar raglen deledu Bill Grundy a oedd yn cael ei darlledu yn fyw amser te ar 1 Rhagfyr.
Er gwaetha'r cyhuddiadau yn eu herbyn, mi lwyddodd The Sex PIstols a'u hagwedd ddi-gyfaddawd i ysbrydoli cenedlaethau o gerddorion ifanc. Dyma i chi rai o'r bandiau Cymraeg gafodd eu dylanwadu gan y diwylliant pync dros y blynyddoedd:
![Datblygu](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/98FC/production/_87146193_7ba4b8a6-bb27-45be-a9ac-4f3a1f08234a.jpg)
Datblygu - Dave R Edwards a Pat Morgan
![Llwybr Llaethog](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/mcs/media/images/77216000/jpg/_77216336_llwybr_llaethog.jpg)
Llwybr Llaethog
![Dewi Emrys a Gruff Rhys o Ffa Coffi Pawb: yn y Cŵps, Aberystwyth](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/EA43/production/_87317995_dewiemrysagruffrhysffacoffi.jpg)
Dewi Emrys a Gruff Rhys o Ffa Coffi Pawb yn y Cŵps, Aberystwyth
![Y fflaps](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/4ADC/production/_87146191_18d90dce-93aa-4aeb-8b28-6561f258eb3a.jpg)
Y Fflaps
![Ian Morris Tynal Tywyll](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17F74/production/_87146189_1ianmorrismedwynjones.jpg)
Ian Morris, lleisydd egniol Tynal Tywyll
![U Thant](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/mcs/media/images/77218000/jpg/_77218884_1uthantmedwynjones.jpg)
U Thant
![Huw Huws, canwr Brodyr y Ffîn wnaeth farw yn ifanc mewn tân yn y fflat lle roedd yn aros.](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15864/production/_87146188_1huwhuwsmedwynjones.jpg)
Huw Huws, canwr Brodyr y Ffîn. Bu farw yn ifanc mewn tân mewn fflat ble roedd yn aros.
![Mark Roberts, canwr y Cyrff](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/mcs/media/images/77218000/jpg/_77218791_1ycyrff-medwynjones.jpg)
Mark Roberts, canwr y Cyrff
![Tŷ Gwydr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/mcs/media/images/77218000/jpg/_77218787_ty_gwydr.jpg)
Tŷ Gwydr
![Gorky's Zygotic Mynci](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/mcs/media/images/77218000/jpg/_77218783_1gorkysmedwynjones.jpg)
Gorky's Zygotic Mynci