Ystyried cynllun i adeiladu 350 o dai ym Mangor, Gwynedd
- Cyhoeddwyd

Bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried cynllun i adeiladu cannoedd o dai newydd yn ardal Bangor ddydd Llun.
Nod y datblygwyr ydi codi hyd at 366 o dai ar dir ym Mhen y Ffridd.
Mae adroddiad i'r cyngor yn dweud bod y cynllun wedi denu nifer "sylweddol" o lythyrau a deiseb yn gwrthwynebu.
Mae'r rhesymau yn cynnwys effaith ar draffig a diffyg lleoedd mewn ysgolion lleol.
Mae cynghorwyr wedi cael argymhelliad i gymeradwyo'r cynllun, os bydd rhai amodau'n cael eu cyrraedd.