Cwmni recordiau ddim ar werth
- Cyhoeddwyd
Dair blynedd wedi i'r cwmni gael ei roi ar y farchnad, mae cyfarwyddwyr cwmni recordio Sain wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n gwerthu'r cwmni wedi'r cwbwl.
Yn lle gwneud hynny, fe fyddan nhw'n chwilio am bartneriaid newydd i fuddsoddi yn y cwmni.
Sefydlwyd Sain yng Nghaerdydd yn 1969, cyn symud i Benygroes ac yna Llandwrog ger Caernarfon yn yr 1970au.
Yn ganolog i hynny bydd gwasanaeth newydd sy'n cael ei lansio yn y flwyddyn newydd, sef ApTon - gwasanaeth ffrydio cerddoriaeth gan holl labeli Cymru i'r we.
Yn gynharach eleni cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd cwmni Sain yn derbyn grant o £30,000 er mwyn datblygu ap fydd yn ffrydio cerddoriaeth (yn hytrach na gwefan lawrlwytho).
'Trysor rhy werthfawr'
Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd y cyfarwyddwyr, O.P.Huws, Dafydd Iwan a Hefin Elis:
"Credwn (hefyd) fod yr archif o recordiadau a'r caneuon a gasglwyd ynghyd gennym dros y blynyddoedd yn drysor rhy werthfawr i'w adael ar drugaredd marchnad ansicr, ac felly penderfynwyd mai sicrhau partneriaeth ehangach yw'r dewis gorau er lles y diwydiant cerdd yng Nghymru.
"Bydd ApTon, y gwasanaeth ffrydio a gaiff ei lansio yn gynnar yn y flwyddyn newydd, yn cynnig cyfle newydd cyffrous i gantorion a cherddorion a chyfansoddwyr Cymru, ymhob maes cerddorol.
"Y cam nesaf, wedi sicrhau digon o danysgrifwyr i'r gwasanaeth Cymreig, fydd gweithio ar y cyd gyda phartneriaid tramor sy'n awyddus i ddatblygu cwmni ffrydio masnach deg i wasanaethu'r gwledydd hynny sy'n cael eu hanwybyddu gan y drefn fasnachol bresennol."
Dywedodd Dafydd Roberts o gwmni Sain bod ApTon yn ymgais i roi taliad teg i artistiaid sydd â'u cerddoriaeth yn cael ei ffrydio, a dywedodd y bydd ApTon yn gobeithio talu allan tua £0.10 y ffrwd, o'i gymharu â'r £0.003 y ffrwd mae Spotify yn talu.
"Mae pob ymchwil yn dangos mai ffrydio fydd y ffordd o dderbyn a gwrando ar gerddoriaeth yn y dyfodol. Felly er mwyn cynnal y diwydiant yng Nghymru mae'n rhaid sicrhau incwm cynaliadwy.
"Bwriad Apton yw bod yn wasanaeth ffrydio 'masnach deg' sy'n talu ffioedd rhesymol i'r labeli a'r artistiaid."
Bydd ApTon yn cael ei lansio'n swyddogol ar 1 Mawrth, 2016.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2012