Llai o lorïau graeanu ar y ffyrdd?

  • Cyhoeddwyd
lori raeanu

Wrth i rai obeithio am Nadolig gwyn eleni, y cynghorau lleol fydd yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod ein heolydd a'n llwybrau yn glir ac ar agor.

Ond mae hynny'n costio arian, ac wrth i'r pwrs cyhoeddus dynhau, mae'n rhaid i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd.

Mae hynny'n cynnwys toriadau i wasanaethau fel graeanu. Yn ôl Cymdeithas Foduro'r RAC, mae bywydau gyrwyr a theithwyr yn cael eu rhoi mewn perygl wrth i gynghorau dorri 'nôl ar lwybrau graeanu.

Wrth siarad â BBC Cymru fe ddywedodd Ed Evans, peiriannydd gyda'r RAC: "Mae'n ddigon posib y byddwn ni ddim yn ca'l cymaint (o halen) ag o'r blaen. Fi'n deall bod arian yn 'deit' da'r bobol, ond hefyd ma' nhw'n rhoi bywydau mewn risg, bydden i'n meddwl."

Fe wnaeth Ed Evans hefyd dynnu sylw at y ffaith mai cymunedau gwledig sy'n colli allan pan fo cynghorau yn torri 'nôl ar lwybrau graeanu.

"Ma' hi'n broblem fawr, yn enwedig yng nghefn gwlad. Ma'r 'hewlydd yn cael eu rhestru fel A, B ac C. Ma nhw'n rhoi halen lawr ar A a B, ond ddim ar C."

Disgrifiad o’r llun,

Mae bywydau gyrwyr mewn peryg, yn ôl Ed Evans o gymdeithas yr RAC

Cysylltu â'r cynghorau

Fe wnaeth BBC Cymru gysylltu â phob un o awdurdodau lleol Cymru o ran eu cynlluniau graeanu y gaeaf hwn. O'r 21 a atebodd, Cyngor Sir Ddinbych fydd yn gweld y newid mwyaf.

Eleni bydd 27 milltir o heolydd yn cael eu graeanu yn rhan o gynlluniau Sir Ddinbych. Os fyddan nhw'n sicr y bydd hi'n rhewi, yna mae'r cyngor wedi addo clirio'r heolydd, ond os nad ydyn nhw'n siŵr, dim ond ffyrdd sydd wedi eu blaenoriaethu bydd yn cael eu trin.

Wrth ymateb i'r sylw'r RAC y gall gyrwyr fod mewn perygl wrth i gynghorau geisio gwneud arbedion, fe ddwedodd y Cynghorydd David Smith - sy'n gyfrifol am briffyrdd - eu bod nhw am sicrhau "bod y ffyrdd sydd angen halen yn ei gael o, ond os ydy'r tywydd yn mynd yn ddrwg iawn, dan ni'n sicrhau y bydd pob ffordd yn cael halen ac yn cael ei chlirio."

Ychwanegodd y cynghorydd bod angen i bob cyngor sir arbed arian:

"Wrth wneud be 'dan ni'n gwneud rŵan, dan ni'n arbed un lori, does dim rhaid iddi fynd allan, a ma hynny'n golygu ein bod ni'n arbed £20,000 y flwyddyn."

Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd David Smith sy'n gyfrifol am briffyrdd yn Sir Ddinbych