Y dorf yng Nghymru'n 'anhygoel' medd Taylor Swift wrth ryddhau albwm

- Cyhoeddwyd
Mae'r seren pop byd-enwog, Taylor Swift, wedi dweud bod ei chefnogwyr yng Nghymru'n "anhygoel" ac ni fydd byth yn anghofio ei gig eiconig yng Nghaerdydd.
Fe berfformiodd o flaen tua 68,000 o gefnogwyr yn y brifddinas fis Mehefin y llynedd a chafodd nifer eu syfrdannu gan ei defnydd o eiriau Cymraeg.
Daw ei sylwadau'n canmol y dorf wrth iddi siarad â chyflwynydd BBC Radio 2, Scott Mills, am ryddhau ei 12fed albwm stiwdio 'The Life of a Showgirl'.
Wrth ddisgrifio'r dorf dywedodd "Duw, roedden nhw'n anhygoel, wna i byth anghofio beth roedd y dorf yna fel" cyn ychwanegu "mae'n rhaid imi fynd yn ôl".

Fe siaradodd Swift am y dorf yng Nghymru wrth sgwrsio â Scott Mills ar BBC Radio 2
Caerdydd oedd yr unig ddinas i gael dim ond un sioe yn ystod ei thaith Eras oedd yn cynnwys 152 o sioeau.
Wrth siarad â Scott Mills dywedodd fod y dorf yn "lit" a "doeddwn i ddim yn disgwyl hwna, roedden nhw ar lefel arall".
Mae'n ymddangos bod perthynas Swift â Chymru'n gryf gyda chyfeiriad annisgwyl at Gymru yn ei halbwm ddiwethaf, 'The Tortured Poets Department'.
Yn un o'i chaneuon cyfeiriodd at y bardd a'r awdur, Dylan Thomas: "You're not Dylan Thomas. I'm not Patti Smith. This ain't the Chelsea Hotel. We're modern idiots."
Mae Swift yn hoffi gadael cliwiau i'w chefnogwyr - sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel Swifties - ynghylch beth mae am ei ryddhau nesaf.
Cafodd cwestiynau eu codi am ei gwisg yng Nghaerdydd - a oedd hynny'n gliw, neu'n 'wy pasg' fel y mae ei chefnogwyr yn cyfeirio at ei chliwiau?

Caerdydd oedd yn yr unig ddinas ar ei thaith Eras ble roedd dim ond un sioe
Gwisgodd gyfuniad newydd o sgert a thop gyda llawer yn credu ei bod wedi dewis coch a gwyrdd er mwyn cyd-fynd â baner Cymru.
Ond, ar adegau roedd y sgert yn edrych yn fwy oren.
Wrth siarad â Scott Mills dywedoddd: "Roedd llawer o gliwiau oren drwyddi draw. Ie, yn sicr".
Dywedodd bod y cwmni recordio ddim hyd yn oed yn gwybod am ei chliwiau i gyd: "Mae'n hwyl cadw rhai pethau ohonyn nhw, wir, mae'n llawer o hwyl".
Ychwanegodd Swift ei bod hi'n meddwl y byddai'n gwneud ysbïwr da iawn gan ei bod hi wedi arfer "mynd i mewn ac allan o adeiladau heb gael ei gweld"
Mae wedi cyrraedd sioeau blaenorol mewn troli glanhawr.
Dywedodd: "Rhowch fi mewn bin sbwriel a rholiwch fi. Does dim ots gen i... gallaf ffitio i mewn fel pwrs."
Cafodd ei halbwm newydd, sy'n cynnwys 12 o ganeuon, ei ryddhau ddydd Gwener.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2024