Heroin: 'Cynllun yn lleihau marwolaethau'
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl sy'n marw ar ôl cymryd gorddos o heroin wedi gostwng yng Nghymru, gan fod gwrthgyffur ar gael yn fwy eang, yn ôl elusen cyffuriau.
Daw'r gostyngiad oherwydd bod cyffur arall ar gael sy'n gallu dadwneud effeithiau gorddosau, Naloxone.
Mae Naloxone wedi bod ar gael ers 2009 drwy gynllun Llywodraeth Cymru.
Mae'r nifer o farwolaethau oherwydd cyffuriau wedi lleihau o 30% dros y bum mlynedd ddiwethaf.
'Datblygiad pwysig'
Sands Cymru oedd un o'r elusennau cyntaf i ddefnyddio Naloxone, ac mae'r prif weithredwr, Ifor Glyn, yn dweud bod y cynllun wedi llwyddo.
"Mae rhoi Naloxone i ddefnyddwyr yn un o'r datblygiadau pwysicaf wrth geisio lleihau nifer y marwolaethau o ganlyniad i gyffuriau.
"Yn Abertawe, dros y blynyddoedd rydyn ni wedi gweld marwolaethau gymaint o ddefnyddwyr. Ar ei waethaf roedd tua 20 o farwolaethau bob blwyddyn."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae yna gynnydd o 55% erbyn hyn yn nifer y pecynnau Naloxone sydd ar gael mewn cymunedau ar draws Cymru.
Dywedodd llefarydd: "Mae ein cynllun lleihau niwed yn gweithio - ers 2010, mae nifer y marwolaethau yn ymwneud a chyffuriau wedi lleihau o 30, sy'n mynd yn groes i'r sydd i'w weld yn Lloegr a'r Alban."