Euro 2016: S4C i ddarlledu gemau Grŵp B Cymru

  • Cyhoeddwyd
bale

Bydd gemau grŵp Cymru ym mhencampwriaeth Euro 2016 yn Ffrainc yn cael eu dangos yn fyw yn Gymraeg ar S4C.

Y sianel Gymraeg fydd yn darlledu'r tair gêm yng Ngrŵp B yn erbyn Slofacia ddydd Sadwrn 11 Mehefin, Lloegr ddydd Iau, 16 Mehefin a Rwsia ddydd Llun, 20 Mehefin.

Dyw S4C heb gadarnhau pwy fydd yn cyflwyno'r rhaglenni byw eto.

Fe ddarlledodd y sianel uchafbwyntiau gemau rhagbrofol ymgyrch 2016 a welodd dîm Chris Coleman yn cyrraedd rowndiau terfynol prif gystadleuaeth bêl-droed am y tro cyntaf ers 1958.

"Rydym wrth ein boddau bod modd i gefnogwyr pêl-droed ar draws y DU wylio gemau Euro 2016 Cymru yn yr iaith Gymraeg," meddai Sue Butler, golygydd chwaraeon S4C.

"Mae'n gwbl addas fod un o'r digwyddiadau mwyaf yn hanes chwaraeon ein cenedl ar gael yn ei dwy iaith genedlaethol. Mae'r daith fythgofiadwy yn parhau i wylwyr S4C, yn dilyn ein rhaglenni uchafbwyntiau estynedig o gemau rhagbrofol Euro 2016.

"Hoffwn ddiolch i'r darlledwyr BBC ac ITV am gydweithio'n agos â ni i sicrhau fod y gemau yma ar gael yn y Gymraeg."