Babi naw mis wedi marw o anaf i'w ben ar ôl ymosodiad gan gi - cwest

Fe wnaeth yr heddlu gadarnhau mai ci XL Bully wnaeth ladd babi naw mis oed yn Sir Fynwy
- Cyhoeddwyd
Bu farw bachgen naw mis oed o anaf i'w ben yn dilyn ymsodiad gan gi yn Sir Fynwy yn gynharach y mis hwn, mae cwest wedi clywed.
Fe glywodd Llys y Crwner Gwent fod Jonte William Bluck yn aros yn nhŷ ei dad ym mhentref Rogiet ar 2 Tachwedd "pan gafodd ei frathu gan gi y teulu".
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân.
Ddydd Llun wrth agor y cwest nodwyd fod y plentyn wedi marw cyn cyrraedd yr ysbyty.
Fe wnaeth archwiliad post mortem cynnar ddangos mai achos y farwolaeth oedd "anaf cywasgedig [compressive] i'w ben yn unol â brathiad gan gi".
Fe wnaeth y crwner, Rose Farmer, ohirio'r cwest nes bod gwrandawiad llawn yn digwydd ar 4 Awst 2026.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd

- Cyhoeddwyd3 Tachwedd
