Yr artist Ogwyn Davies wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae'r artist Ogwyn Davies wedi marw yn 90 oed.
Fe gafodd ei eni yn Nhrebannws, Cwm Tawe, yn 1925 ac astudiodd yn Ysgol Gelf Abertawe cyn symud i Dregaron lle oedd yn athro celf yn yr ysgol uwchradd.
Efallai mai un o'i luniau enwocaf yw'r un o Soar y Mynydd lle mae geiriau emynau yn codi allan o'r walydd a'r to.
Dywedodd Valerie Williams, Cyfarwyddwr Oriel Cymru ac un oedd yn adnabod Ogwyn, fod ei farwolaeth yn "golled fawr i'r celfyddydau yng Nghymru."
"Roedd yn artist pwysig iawn, yn artist cefn gwlad," meddai. "Mae wedi cofnodi tirluniau traddodiadol Cymreig fel y bythynnod mynydd a'r capeli."
Dywedodd fod ystyr i'w waith a bod y neges y tu ôl i'r lluniau yr un mor bwysig â'r lluniau.
"Roedd Kyffin yn ei edmygu yn fawr iawn, yn hoff iawn o'i waith, roedd yn hollol unigryw.
'Ar ffurf tirlun'
"Mae gwaith artistiaid eraill fel David Jones yn cynnwys arysgrifau hanesyddol ond does neb fel Ogwyn wedi gallu cynnwys hyn yn eu gwaith ar ffurf tirlun fel llun Soar y Mynydd," meddai Ms Williams.
"Mae'n wych fod rhywun wedi gallu cyfuno celf â geiriau emynwyr fel Ann Griffiths ar gof a chadw."
Dywedodd ei deulu fod Ogwyn wedi cael "bywyd hir a hapus, a mawr fydd y golled ar ei ôl."
Mae'n gadael gwraig Beryl, ei blant Huw a Nia a'i wyresau Hanna, Lili a Mared.