Wylfa'n rhoi gorau i gynhyrchu trydan: 'Dechrau diwedd cyfnod'
- Cyhoeddwyd
Beth bynnag yw barn pobl yn y rhan hon o Fôn am ynni niwclear, mae gan bawb rhyw gysylltiad â'r lle, wedi gweithio yno, yn 'nabod perthynas neu gyfeillion sydd wedi gweithio yno - neu maen nhw'n byw yng nghysgod yr atomfa.
Mae wedi chwarae rhan bwysig yn economi'r ardal ac mae nodi'r garreg filltir heddiw, wrth i'r cynhyrchu trydan ddod i ben am y tro olaf, yn ddechrau ar ddiwedd cyfnod.
Heb os dyma gyflogwr preifat mwya'r ynys.
Yr amcangyfrif ydi y bydd traean o'r gweithlu presennol o 500 wedi colli eu gwaith erbyn canol 2016.
Fe fydd swyddi yma am flynyddoedd wrth i'r broses ddadgomisiynu gael ei chwblhau ond yn raddol colli nid creu swyddi fydd yr Wylfa, y tro cyntaf ers i'r gwaith gychwyn ar y safle yn 1963.
Yn siop Mechell, Llanfechell, mae'r pentrefwyr sy'n byw filltir neu ddwy o'r Wylfa yn trafod gwaddol y lle.
Mae'n deg dweud mai cymysg yw'r farn am ynni niwclear ond bod cydnabyddiaeth o'i gyfraniad i genedlaethau o bobl yn y rhan hon o Gymru.
Un o'r rhai sy' wedi gweithio yno yw Owie Jones: "Mi ddechreuish i yna yn 1963, a mi ges i amser da yno.
"Mi roth y lle fi ar fy nhraed, fel llawer un arall, ac mi fydd y ffaith bod y Wylfa yn cyrraedd diwedd ei hoes yn dipyn o slap."
Pryder
"Mae'n gas gen i feddwl be' mae hyn yn mynd i olygu i bentrefi Llanfechell a Chemaes a llawer i ardal arall o gwmpas yr ynys," medd Owie.
Y pryder yw effaith dirwyn oes y pwerdy i ben ar yr economi ond mae rhai hefyd am weld gwireddu'r syniad o atomfa yn ei lle - Wylfa Newydd.
Mi oedd Dei Owen yn gweithio ar safle Wylfa yn y dyddiau cynnar: "Dwi'n meddwl efo Wylfa sydd wedi bod, bod 'na lot o bobl wedi elwa o'r lle, ac wedi cael altro eu bywydau.
"A wedyn y Wylfa newydd 'ma. Dwi'n cyd-weld â honno hefyd," medd Dei.
Ond nid pawb sydd am weld Wylfa Newydd. Yn wir, mae rhai'n difaru i'r atomfa bresennol erioed gael ei chodi.
Elaine Rowlands sy'n gyfrifol am wasanaethau'r post yn siop Mechell. "Ma' 'di newid yr ardaloedd wrth reswm - biti garw ei bod hi wedi dod yma.
"Ac er bod 'na bobl leol wedi cael gwaith yno, pobl ddiarth ydi'r rhan fwya ohonyn nhw."
Yn fy hen ysgol, Syr Thomas Jones yn Amlwch, mae cysylltiad cryf gan nifer â'r atomfa.
Mae teuluoedd dros hanner y disgyblion yn y dosbarth ffiseg yn gweithio yn Wylfa ac mae mam a thad un o'r disgyblion yn ennill bywoliaeth yno.
Os taw hollti barn y mae niwclear fel arfer, unfrydol yw'r farn yn y dosbarth.
Mae angen swyddi ac mae yna gefnogaeth gyffredinol i'r syniad o atomfa newydd ar Ynys Môn.
Hebddi mae nifer o'r genhedlaeth bresennol o ddisgyblion yn rhagweld gorfod gadael Ynys Môn i chwilio am waith.